Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Beti-Wyn-James.jpg)
Cristnogion yn beirniadu’r benthycwyr arian, ac yn galw am Undeb Credyd i helpu’r tlawd
Mae pryder bod mwy a mwy o bobl yn syrthio i ddyled wedi ysgogi aelodau eglwysi Annibynnol yn Sir Gaerfyrddin i annog Undeb Credyd i sefydlu’n y sir.
Maent hefyd am i lywodraeth Prydain gymryd camau cyflym a phendant i reoli cwmnïau ‘Benthyciadau Diwrnod Cyflog’, sy’n codi llog o hyd at 4000%.
Mae Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, sydd â 3,000 o aelodau, wedi gofyn i gwmni CredCer o Aberteifi i ystyried ymestyn ei weithgarwch i Sir Gâr.
“Gall taliadau llog ar fenthyciadau gan Undeb Credyd fod mor isel ac 1% y mis. Byddai’n gymorth mawr i gadw pobl allan o grafangau siopau pawn a chwmnïau benthyg arian sy’n manteisio ar y tlawd trwy godi llog afresymol o uchel,” meddai’r Parchg Beti-Wyn James, Ysgrifennydd y Cyfundeb.
Llun: Parchg Beti-Wyn James