Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2012

Colli cytundebau bara

Mae tri perchennog becws yng Ngwynedd wedi colli cytundebau tymor hir i ddarparu bara a roliau i ysgolion lleol i bobyddion tu hwnt i ffiniau’r Sir.

Bu Station Bakery, Cricieth, ynghyd â Becws Llanllechid ger Bangor a Becws Llanaelhaearn ger Pwllheli rhyngddynt yn cyflenwi pob un o ysgolion a chartrefi preswyl Gwynedd dros gyfnod o 20 mlynedd. Bellach dau fecws o Ynys Môn ac o Sir Ddinbych fydd â’r cytundeb.

“Mae hyn yn warth o’r mwyaf ac yn ryfeddod,” meddai Cynghorydd Llais Gwynedd, Alwyn Gruffydd, sydd am wybod pam fod pob un o’r tri becws lleol wedi colli ffafriaeth Cyngor Gwynedd ar yr un pryd.

“Os mai dyma’r ffordd y mae Plaid Cymru’n hybu economi sydd wedi cyrraedd y gwaelod dros y 15 mlynedd ddiwethaf o dan reolaeth Plaid ar Gyngor Gwynedd yna nid ydynt yn haeddu cadw’r rheolaeth hwnnw,” ychwanegodd.

Ond mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru: "Mae adnewyddu cytundebau i gyflenwyr sy'n gwerthu bwyd i ysgolion a chartrefi gofal Cyngor Gwynedd yn fater i  Arweinydd Portffolio Gwasanaethau Darparu ar Fwrdd Cyngor Gwynedd.

"Yn sgil y system aml-bleidiol sy'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd gan Gyngor Gwynedd, mae'r person sydd yn arwain y portffolio yma yn gynghorydd Annibynnol, ac nid yn aelod o Blaid Cymru.

"Roedd y penderfyniad felly yn rhan o'i gyfrifoldeb o. Ni chodwyd y mater gyda grwp Plaid Cymru. Petae hyn wedi digwydd, byddai Plaid wedi gallu  lleisio pryder mawr am y mater."

Dywedodd Morwena Edwards, Pennaeth Darparu a Hamdden Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi ac annog cwmnïau lleol i gystadlu am gytundebau'r sector gyhoeddus. Mae'r Cyngor yn cynnal ac yn mynychu nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn sy'n targedu cwmnïau lleol ac sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth iddyn nhw fel y gallant gystadlu yn effeithiol am gytundebau.

"Fel ym mhob cytundeb sylweddol yn y sector gyhoeddus, roedd cytundeb cyflenwyr bwyd y Cyngor yn destun proses ffurfiol agored, teg a thryloyw. Er bod rheoliadau Ewropeaidd yn nodi'n glir nad oes modd i unrhyw Gyngor fynnu ar darddiad cynnyrch, mae gofynion ein tendr cyflenwyr bwyd yn nodi'n glir y dylai'r ymgeiswyr arddangos ymrwymiad i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o fewn dalgylch y fframwaith ac fe'i luniwyd er mwyn hwyluso cyfranogiad cwmniau llai. Mae ardal y fframwaith yn cynnwys Gwynedd ac Ynys Môn.

"Mae cyfanswm cytundebau cyflenwyr bwyd y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi gweld cynnydd yn niferoedd cwmnïau Gwynedd a gogledd Cymru o'i gymharu gyda'r blynyddoedd diwethaf ac mae hyn yn cynnwys y tendr bara.

"O ran cyflenwyr a ddefnyddir i ddarparu bara i gartrefi preswyl ac ysgolion y Cyngor, aseswyd pob cais yn drylwyr ac fe'u hystyriwyd yn erbyn cyfres o fesurau gan gynnwys iechyd a diogelwch, safon y cynnyrch a chostau.

"Rydym hefyd wedi cysylltu gyda'r holl ymgeiswyr aflwyddiannus i esbonio'r penderfyniad ac i gynnig adborth ar eu ceisiadau."

Llun: Alwyn Gruffydd

Rhannu |