Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2012

Rhagor o arian i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru

Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi ei fod am roi £36,000 ychwanegol i gymdeithas sy’n cefnogi eisteddfodau lleol yng Nghymru.

Bydd y grant a roddir i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn sicrhau y gall barhau i gefnogi a chydlynu gweithgareddau dros 100 o eisteddfodau lleol ledled Cymru. Mae’r arian hwn yn ychwanegol at y £10,000 a roddwyd eisoes i’r Gymdeithas ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13.

Dywedodd Mr Andrews: “Dw i mor falch ein bod wedi gallu rhoi’r arian ychwanegol hwn i hybu’r gwaith pwysig mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ei wneud i sicrhau llwyddiant eisteddfodau bach ledled Cymru. Fel mae ein Strategaeth newydd ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn ei nodi, mae darparu gweithgareddau i bobl ifanc y tu allan i’r ysgol yn hanfodol os ydym am ddatblygu’r iaith.

“Y mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn etifeddu rôl bwysig Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sef hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Dw i wedi ymrwymo i barhau i weithio’n agos gyda’r prif randdeiliaid sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o gyflawni’r dasg hon.”

Dywedodd Megan Jones, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: “Bydd yr arian yn galluogi’r Gymdeithas i gyflogi Staff Datblygu i hyrwyddo a chefnogi eisteddfodau yng Nghymru. Gan amlaf, gwirfoddolwyr sy’n rhedeg yr eisteddfodau hyn, ac maen nhw’n croesawu’r cymorth a’r cyngor y mae’r Gymdeithas yn eu cynnig.

"Bydd yr arian ychwanegol yn ein helpu i gryfhau’r bartneriaeth sy’n bodoli eisoes rhwng y gymdeithas a’r eisteddfodau. Rydyn ni wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi cytuno i’n cefnogi, a byddwn ni’n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl.”

Elusen gofrestredig sy’n cael ei rhedeg gan bwyllgor gwirfoddol yw Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1998 fel mudiad ymbarél ac asiantaeth ddatblygu ar gyfer eisteddfodau bach. Nod y Gymdeithas yw cefnogi, datblygu a grymuso pobl sy’n rhan o weithgarwch eisteddfodau lleol.

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |