Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mawrth 2012

Gofyn barn am reoli hamddena yn Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gofyn am farn y cyhoedd ar gynnwys ei Strategaeth Hamdden er mwyn sicrhau defnydd cynaliadwy o Eryri.

Yn Nrafft Ymgynghorol y Strategaeth, anogir hybu gweithgareddau sy’n cyd-fynd â phwrpasau statudol y Parc Cenedlaethol wrth sicrhau fod rhinweddau arbennig y Parc yn cael eu gwarchod. Amlinellir hefyd pa gamau ddylai’r Awdurdod a’i bartneriaid eu cymryd o fewn y 5 mlynedd nesaf i wireddu’r strategaeth.

Mae’r camau hyn yn cynnwys sicrhau fod gweithgareddau hamddena yn parchu rhinweddau arbennig a heddwch Eryri, yr angen i ystyried effeithiau newid hinsawdd mewn perthynas â hamddena, diogelu a gwella’r ymdeimlad o le yn Eryri, a sicrhau a gwella mynediad i bawb.

Hefyd, mae’n cynnwys hyrwyddo manteision iach a llesol gweithgareddau hamdden, sicrhau manteision economaidd, gweithio mewn partneriaeth, ynghyd â gwella’r cysylltiad rhwng y gwahanol weithgareddau hamdden.

 

Wrth gyhoeddi’r ddogfen ymgynghorol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymateb i geisiadau gan y cyhoedd, rheolwyr tir a busnesau preifat am gytundeb unfrydol a chlir o ddatblygiad a rheolaeth hamdden mewn Parc Cenedlaethol.

Pwysleisia’r ddogfen pa mor bwysig yw darparu hamdden yn yr ardal, yn enwedig o fewn cymunedau ac er mwyn gwella iechyd a lles. Mae’n ystyried hefyd agweddau mwy heriol y sector hamdden megis cam ddefnydd o adnoddau naturiol ac effeithiau ar dirlun yr ardal.

Ar ran yr Awdurdod, dywedodd y Prif Swyddog Polisi, Ifer Gwyn: “Mae’r ddogfen ddrafft ar gael am gyfnod ymgynghorol o 6 wythnos er mwyn rhoi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb yn y maes gynnig sylwadau neu argymhellion cyn paratoi’r ddogfen orffenedig.

"Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn mynegi barn ar hamdden yn Eryri, bydd Adran Bolisi’r Awdurdod yn falch o glywed oddi wrthych. Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw Ebrill 16eg.”

 

I gynnig sylwadau neu am drafodaeth bellach ynglŷn â’r Strategaeth Hamdden, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 01766 770 274 neu parc@eryri-npa.gov.uk

Rhannu |