Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mawrth 2012

Ysgolion cynradd o Gymru yn ennill gwobrau cenedlaethol am addysgu ieithoedd

Mae dwy ysgol gynradd o Gymru wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ragoriaeth ym maes addysgu ieithoedd.

 

Dydd Gwener yn y Gwobrau Ieithoedd ar gyfer Ysgolion Cynradd, a gynhaliwyd yn y Sioe Addysg yn Birmingham, cafodd Ysgol Gynradd Pillgwenlly yng Nghasnewydd wobr am addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol, ac enillodd Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru yr Henadur Davies, Casnewydd wobr am addysgu Cymraeg.

 

Mae’r gwobrau’n dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud ym maes addysgu a dysgu ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, mewn ysgolion cynradd yn y DU, ac maent yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae’r gwaith hwnnw’n ei chael ar yr ysgol gyfan ac ar y gymuned leol.

 

Mae pum categori o wobrau: Ffrangeg, Almaeneg, arall (megis Eidaleg, Tsieinëeg, Wrdw, neu Sbaeneg), Saesneg fel Iaith Ychwanegol, a Chymraeg.

 

Saif Ysgol Pillgwenlly yn ardal yr hen ddociau yng Nghasnewydd, ardal sy’n prysur ddatblygu i fod yn un amlddiwylliannol. Mae tua 32 o ieithoedd yn cael eu siarad yn yr ysgol. Mae’r rhieni’n cael bod yn rhan o’r addysgu drwy gael eu gwahodd i foreau coffi lle siaredir iaith y cartref. Roedd y beirniaid yn teimlo bod arwyddair cynhwysol yr ysgol - rydym yn chwarae, dysgu a gweithio gyda’n gilydd - wedi helpu i ddatblygu ethos lle mae pobl yn barod i dderbyn diwylliannau ei gilydd.

 

Yn Ysgol yr Henadur Davies, mae staff yn defnyddio dulliau ymarferol i addysgu Cymraeg, gan helpu pob plentyn i ddeall ei iaith a’i dreftadaeth. Ym mlwyddyn pedwar, mae’r plant yn cael eu helpu i ddatblygu, ac mae staff cymorth yn cynorthwyo gyda’r broses o ddysgu’r iaith, sydd hefyd yn cael ei chefnogi drwy gyfrwng amryfal themâu gwahanol. Roedd y beirniaid yn teimlo bod yr ysgol hon yn eithriadol o ran creu ethos lle mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ffordd sy’n hwyl ac yn berthnasol.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Hoffwn i longyfarch y ddwy ysgol ar ennill y gwobrau hyn. Maen nhw’n tystio i’r gwaith caled y maen nhw’n ei wneud ac i’w brwdfrydedd dros addysgu ieithoedd. Mae’n hanfodol bod disgyblion yn cael sylfaen dda mewn ieithoedd yn yr ysgol gynradd er mwyn iddyn nhw fedru adeiladu arni ar ôl symud ymlaen i addysg uwchradd.

“Mae’r gwobrau hyn yn brawf pellach bod arferion o’r radd flaenaf i’w gweld yma yng Nghymru, a dw i am weld yr arferion hynny’n cael eu rhannu ledled y wlad ac ar draws y proffesiwn.”

Dywedodd Liz Foxwell, trefnydd y Gwobrau Ieithoedd ar gyfer Ysgolion Cynradd: “Yn ôl ymchwil, y cynharaf i gyd y mae plant yn dechrau dysgu iaith, yr hawsaf fydd y broses o drosglwyddo i’r ysgol uwchradd, lle mae’n anos cyrraedd lefelau uchel mewn ieithoedd. Mae ennill y Gwobrau Ieithoedd ar gyfer Ysgolion Cynradd yn arwydd o’r llwyddiant y mae ysgolion yn ei gael wrth roi dechrau cadarn a chynnar i’r plant, ac mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chwarae o ran tynnu sylw at yr arferion gorau.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac ynghylch sut i fynd ati i wneud cais y flwyddyn nesaf, ewch i www.languageawards.com

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |