Mwy o Newyddion


Gobeithio deffro y byd drama
MAE Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru yn gobeithio “deffro” y byd drama gyda chynyrchiadau nesaf y cwmni.
Ddydd Mawrth, fe ddaeth y cyhoeddiad mai Arwel Gruffydd, actor llwyfan a theledu sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru yng Nghaerdydd, ydi’r un sydd wedi ei benodi i arwain rhaglen y cwmni, yn dilyn ymadawiad Cefin Roberts, y Cyfarwyddwr Artistig cyntaf, ym mis Ebrill y llynedd.
“Mae llywio’r Theatr Genedlaethol wrth iddi ailddiffinio’i hun ac ailystyried ei pherthynas ag aml gymunedau Cymru, yn her ac yn fraint aruthrol,” meddai Arwel Gruffydd.
“Wrth i’r cwmni ddod allan o gyfnod o edrych i mewn arno’i hun, mae hi naill ai’n ddamwain ffortunus neu’n gynllun go giwt, fod fy mhenodiad yn digwydd pan mae cynhyrchiad nesaf y cwmni (sydd ar fin cychwyn ar daith drwy Gymru), ydi Deffro’r Gwanwyn. Gobeithio fod hyn yn argoel dda.
“Mae’n gyfnod cynhyrfus i gychwyn gyda’r Theatr Genedlaethol, a dw i’n edrych ymlaen yn arw i fynd ati dros y misoedd nesaf i greu rhaglen o waith bywiog ac amrywiol ar gyfer 2012 ac i blannu hadau o bob math ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”
Fe fydd Arwel Gruffydd yn dechrau ar ei waith yn llawn amser ar Fai 3.