Mwy o Newyddion
Edrych ar syniadau newydd ar gyfer darpariaeth ar gyfer pobl hŷn yn ardal Porthmadog
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych o'r newydd ar ddarpariaeth ar gyfer pobl hŷn at y dyfodol yn ardal Porthmadog.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad Bwrdd y Cyngor i symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer tai gofal ychwanegol ym Mangor yn hytrach na Phorthmadog ar ôl i'r Cyngor llawn ohirio penderfyniad ynglŷn â chau cartref gofal Hafod y Gest.
Mae Arweinydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Wyn Williams, wedi cadarnhau fod y broses ymgynghorol gyfredol ynglŷn â gofal yn ardal Porthmadog yn edrych o'r newydd ar y cynigion.
Dywedodd Y Cynghorydd Wyn Williams: "Mae'r broses ymgynghori bresennol yn rhoi cyfle i ni edrych ar syniadau newydd ar sut i gwrdd â gofynion trigolion presennol ardal Porthmadog.
"Rydym yn gobeithio y bydd y cynigion yn cwrdd ag anghenion presennol trigolion Hafod y Gest tra hefyd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol a’r cynnydd yn y galw am gymorth i fyw’n annibynnol adref.
"Fel mae pawb yn gwybod, mae cyllid yn dynn iawn, ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfleusterau newydd ar gyfer ardal Porthmadog. Mae’r rhai sy’n heneiddio ac angen cefnogaeth yn haeddu’r cyfleusterau gorau bosib. Rwyf wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd."
Yn y cyfamser, mae cynllun gofal ychwanegol Bangor yn symud yn ei flaen. Mae cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer cynllun i adeiladu 42 cartref newydd ar gyfer pobl hŷn ym Mangor. Penderfynwyd hyn yn sgil argymhelliad gan Uwch Arweinydd Portffolio Plaid Y Cynghorydd John Wyn Williams.
"Yn hytrach na dychwelyd y £4.3 Miliwn o grant a gafodd Cyngor Gwynedd ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi llwyddo i negodi trosglwyddo’r arian i ran arall o Wynedd ble mae cynllun yn barod i’w weithredu.
"Yn hytrach na dychwelyd yr arian, rydym wedi newid ein cynlluniau ac rwy’n falch y bydd modd i’r cynllun ym Mangor fynd yn ei flaen ac y bydd yr arian yn cael ei roi at ddefnydd da," ychwanegodd y Cynghorydd Williams.