Mwy o Newyddion
Ffilm dorfol gyntaf Gymraeg - ‘Munud i Ddathlu' 50 mlynedd
Fe ddangosir y ffilm wedi'i chreu â chymorth torfol (crowdsourced) gyntaf yn Gymraeg y penwythnos hwn fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bumdeg mlwydd oed.
Mae'r ffilm, sydd yn gyfuniad o ddegau o ffilmiau byrion gan ystod eang o unigolion, yn rhannu profiadau pobl o fod yn Gymry Cymraeg bumdeg mlynedd ar ôl sefydlu'r mudiad iaith ym mis Awst 1962. Bydd y dangosiad cyntaf nos Wener yma (9fed o Fawrth) yn y Golden Lion, Caerfyrddin, gyda'r darllediad byd-eang am 8 o'r gloch nos Sul ar sianel deledu'r mudiad, sianel62.com.
Mae'r ffilm yn cynnwys cyfraniadau gan y cerddor a'r bardd Dewi Pws, yn ogystal â'r awduron Dewi Prysor, Angharad Tomos a Dewi y Ddafad.
Fe ddywedodd Lleucu Meinir, cydlynydd y ffilm dorfol: “Mae 'di bod yn brofiad a hanner cael cydlynu prosiect fel hyn i'r Gymdeithas a dw i'n hynod ddiolchgar am gymorth degau o bobl. Ni fuase'r ffilm 'di bod yn bosib heb gefnogaeth pawb wnaeth ffilmio a llwytho wrth gwrs. Diolch i bawb wnaeth gyfranu. Roedd e wir yn dod a deigryn i fy llygaid wrth weld yr holl ffilmiau yn dod i fewn. Bydd gwylio'r ffilm yn gwneud i Gymry Cymraeg deimlo'n falch iawn o fod yn Gymry.
"Mae wedi bod yn sialens fawr cydlynu'r prosiect arbrofol yma. Cefais sioc cynlleied o Gymry Cymraeg oedd yn hyderus yn gwneud ffilmiau a llwytho deunydd i YouTube. Dw i'n gobeithio y bydd y prosiect yn golygu y bydd mwy o ddeunydd Cymraeg yn cael ei roi yn rheolaidd ar YouTube yn y dyfodol. “
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n defnyddio'r flwyddyn hon fel cyfle i ddathlu ymdrechion yr holl bobl sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith ac roedd hon yn ffordd dda i alluogi pobl i fod yn rhan o'r dathliadau. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd rhan. Mae'r ffilm, heb amheuaeth, yn mynd i ddiddanu miloedd o bobl Cymru benbaladr dros y misoedd i ddod."
Ar ôl ei darllediad ar Sianel 62 yn fyw nos Sul yma, fe fydd y ffilm yn mynd ar daith gyda dangosiadau mewn rali yn Ysgol y Parc, ger y Bala ar Fawrth 17; Noson 4a6, Caernarfon ar y 31ain o Fai, yn ogystal ag Aberystwyth a Bangor. Gofynnir i bobl e-bostio lleucu@cymdeithas.org i drefnu dangosiad yn lleol.