Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Ysgol y Parc: Enillydd Cân i Gymru'n ymuno â'r frwydr

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd enillydd cystadleuaeth "Cân i Gymru" - Gai Toms - yn cymryd rhan mewn Diwrnod o Brotest yr wythnos nesaf yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gyhoeddi Rhybudd i gau Ysgol Y Parc, ger Y Bala.

Cynhelir Rali "Safwn yn y Bwlch" yn Ysgol Y Parc am 1pm Ddydd Sadwrn yr 17eg o Fawrth. Anerchir y cyfarfod gan gynghorwyr a llywodraethwyr lleol gyda negeseuon o gefnogaeth ar sgrin mawr gan nifer o bobl amlwg.

Yn dilyn y rali, dangosir gêm rygbi Cymru v Ffrainc yn fyw, a chyda'r hwyr bydd Gai Toms yn ymuno ag artiostiaid lleol a phlant yr ysgol mewn cyngerdd i gefnogi brwydr hir y pentrefwyr dros eu hysgol.

Esboniodd Swyddog Maes y Gymdeithas yn y gogledd Osian Jones: "Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bawb sefyll gyda'r pentrefwyr yn eu brwydr i gadw eu hysgol a'u cymuned Gymraeg.

"Yr ydym yn arbennig o falch fod enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru, Gai Toms, wedi cytuno'n syth i ganu a chefnogi'r achos.

"Mae ei gân "Mor braf yw byw" yn crynhoi i'r dim ewyllys y plant a'r bobl leol i fynnu bod eu hysgol a'u cymuned yn cael byw.

"Galwn ar bawb i ddangos eu cefnogaeth i'w brwydr ddewr ac i anfon gwrthwynebiad i Rybudd Cyngor Gwynedd i gau'r ysgol."

Llun: Gai Toms

Rhannu |