Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mwy o fenthyca lleol

Mae Plaid Cymru  wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mwy o fenthyca lleol er mwyn cael arian ychwanegol i mewn i economïau lleol i helpu busnesau bach a swyddi yn ystod yr argyfwng economaidd. Mae’r blaid wedi croesawu’r newyddion fod benthyca gan awdurdodau lleol ar lefel hanesyddol o isel, gan ddadlau fod hyn yn dangos fod lle i fenthyca mwy wedi ei gyllido gan y llywodraeth.

Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o fuddsoddi ar lefel leol mewn ysgolion, tai a gwelliannau i briffyrdd er mwyn symud yr economi.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas AC: “Mae Plaid Cymru eisiau gweld unrhyw arian sydd ar gael yn cael ei gyfeirio at economïau lleol er mwyn rhoi hwb y mae ei angen yn ddirfawr, a chychwyn yr economi. Ar yr adeg economaidd anodd hon, mae angen i’r llywodraeth weithredu ar frys i amddiffyn a chreu swyddi a helpu busnesau bach. Mae’r newyddion heddiw fod benthyca gan awdurdodau lleol ar lefel hanesyddol o isel i’w groesawu, am ei fod yn arwydd fod lle i fenthyca mwy wedi ei gyllido gan y llywodraeth.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld mwy o fuddsoddi cyfalaf mewn adeiladau newydd i ysgolion, tai a phriffyrdd, gan gynnwys trwsio tyllau ac ail-wynebu ffyrdd a phalmentydd peryglus. Cred Plaid Cymru fod awdurdodau lleol yn allweddol yn yr adferiad economaidd, ac y mae angen i’r llywodraeth Lafur wneud yr hyn fedr i’w galluogi i gyflawni ar y potensial hwnnw.”

Rhannu |