Mwy o Newyddion
Uchelgais Colegau: gweithlu dwyieithog
Roedd ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg a chydnabod ei manteision yn y byd gwaith yn rhai o’r prif negeseuon yn y digwyddiad cyntaf o’i fath i fyfyrwyr galwedigaethol sy’n medru’r Gymraeg. Trefnwyd y digwyddiad gan bartneriaeth oedd yn cynnwys colegau addysg bellach: Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg Penybont, ynghyd â’r Urdd a’r Mentrau Iaith, ac a amserwyd i ddilyn dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Mae gan fyfyrwyr galwedigaethol mewn colegau addysg bellach lygad craff ar y gweithle. Maen nhw’n dysgu crefftau a sgiliau busnes sy’n uniongyrchol berthnasol i’r byd gwaith. Mae’r rhan fwyaf yn dewis defnyddio’u cymwysterau’n lleol, gan aros yn eu cymunedau i weithio. Mae gan yr iaith a’r diwylliant maen nhw’n eu hymarfer ac yn eu gwerthfawrogi ochr yn ochr â’u sgiliau proffesiynol effaith uniongyrchol felly ar natur cymunedau yng Nghymru.
Darparodd y digwyddiad ar 2 Mawrth gwir gyfle i fyfyrwyr coleg sy’n medru’r Gymraeg ar draws de ddwyrain Cymru uniaethu gyda chymuned gyfoedion fwy o faint ac i fyfyrio ar werth sgiliau iaith Gymraeg i’r gweithle ac mewn busnes ac i’w hannog i barhau i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau ymhellach.
Dywedodd Delme Bowen, Maer Caerdydd a oedd yn siarad yn y digwyddiad: “Mae’ch iaith yn rhan o’ch hunaniaeth. Cyfoethogwch y byd gyda’ch iaith a’ch diwylliant. Mae meddu ar yr iaith Gymraeg yn gaffaeliad. Yn wir, mae bod yn amlieithog yn gaffaeliad.”
Rhannodd Geraint Evans, Cadeirydd Coleg Caerdydd a’r Fro, sy’n ŵr busnes llwyddiannus ac yn Gadeirydd Busnes mewn Ffocws, hefyd ei brofiad o’r gwerth uniongyrchol y mae ei sgiliau iaith Gymraeg wedi’u rhoi iddo mewn busnes, hyd yn oed mewn ardal lle na chaiff y Gymraeg ei siarad ar raddfa eang. Dilynwyd ac atgyfnerthwyd ei neges gan gyflwyniadau ystod o gwmnïau yn y sector preifat a chyhoeddus sy’n cynrychioli twristiaeth, y gwasanaethau cyhoeddus, gofal plant ac asiantaeth recriwtio.
Dywedodd Bleddyn Lewis, myfyriwr 18 oed Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: “Mae’r diwrnod hwn wedi ehangu fy ngweledigaeth o’r iaith Gymraeg. Mae wedi gwneud imi sylweddoli bod cael y gallu i siarad y Gymraeg yn rhoi imi fantais yn y gweithle yng Nghymru.”
Dywedodd Rebecca Townsend-Ryan, myfyrwraig 18 oed yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg: “Ar ôl gwneud lleoliad gwaith mewn ysgol, rydw i wedi cael cynnig swydd fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu a theimlaf fod yr iaith Gymraeg wedi chwarae rôl sylfaenol yn hyn. Fodd bynnag, rydw i wedi dysgu heddiw fod ffordd well o ysgrifennu CV a hyrwyddo’r ffaith i gyflogwyr y gallaf siarad Cymraeg. Teimlaf y byddai myfyrwyr blwyddyn un ar ddeg yn elwa’n fawr iawn ar y profiad hwn.”
Casglodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “’Gwnewch y pethau bychain’ oedd chwedl Dewi Sant. Mae cymaint yn haws cynnal a hogi sgil sy’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol nag yw hi i orfod dechrau o’r dechrau eto yn ddiweddarach os bydd yn cael ei adael i ddadfeilio. Atgoffodd y digwyddiad hwn ddarpar entrepreneuriaid a gweithwyr Cymru, i’r sawl a chanddynt sylfaen dda yn y Gymraeg, ar ôl dysgu’r iaith yn yr ysgol neu’r cartref, mae gwerth mewn cynnal a datblygu’r sgiliau hynny ar hyd gyrfa coleg a gwaith. Nid yn unig unigolion fydd yn elwa ond y gymuned leol a Chymru ar raddfa ehangach hefyd.”