Mwy o Newyddion
Difas - Camwch Ymlaen! meddai seren deledu Russell
Mae seren Strictly Come Dancing Russell Grant wedi dechrau chwilio am ddifas newydd.
Mae’r bersonoliaeth teledu poblogaidd, wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer cynnal clyweliadau i’w sioe newydd ysblennydd ar y cyd â Choleg Harlech. Bydd y cynhyrchiad yn cynnig cyfleoedd a allai drawsnewid bywydau pobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant a'r rhai sydd mewn perygl o fod felly.
Mae’n annog pobl i ddod draw i gymryd rhan yn y cynhyrchiad sgleiniog sydd wedi ei lleoli yn Efrog Newydd y 1960au ac sy’n canolbwyntio ar bump o ddifas enwocaf y sioeau cerdd gan gynnwys Edna Turnblad o Hairspray a Dolly Levi o Hello Dolly.
Wrth siarad o'r West End yn Llundain lle mae’n perfformio yn y Palladium yn ei rôl ddiweddaraf yn sioe gerdd Wizard of Oz Andrew Lloyd Webber, dywedodd Russell: "Rwyf am i bobl ifanc wybod nad oes angen profiad, ond mae brwdfrydedd yn hanfodol.
"Ni ddylai pobl boeni os nad ydynt wedi bod ar y llwyfan erioed o'r blaen, ond os ydych am ddod draw a rhoi cynnig arni fe gewch chi groeso cynnes.
Cynhyrchiad gan Ysgol Celfyddydau Perfformio Coleg Harlech yw Strictly Divas sydd wedi’i ariannu gyda chymorth menter ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy brosiect o’r enw Cyrraedd y Nod.
Bwriad Cyrraedd y Nod yw lleihau nifer y bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (y cyfeirir atynt fel NEET) neu sydd mewn perygl o fod felly. Hyd yma mae'r prosiect wedi helpu mwy na 5,000 o bobl ifanc a'r gobaith yw y bydd Strictly Divas, sy'n dilyn ymlaen o’r cynhyrchiad llwyddiannus iawn a gafwyd o Bliss y llynedd, yn helpu mwy fyth o bobl ifanc.
Bu gan Carys Wigglesworth, gweithiwr datblygu ar gyfer cyrsiau byr yng Ngholeg Harlech, ran fawr yn y gwaith o drefnu Bliss, a bydd hi hefyd yn arwain y ffordd gyda Strictly Divas.
Dywedodd: "Gyda Strictly Divas rydym yn gobeithio cynnal rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy. Mae'n bwysig iawn creu’r mathau hyn o gyfleoedd yn y celfyddydau perfformio i bobl ifanc yn Harlech.
"Mae Russell yn berson hyfryd ac yn gaffaeliad gwych ar gyfer rhywbeth fel hyn ac mae ei frwdfrydedd heintus a’i bersonoliaeth fawr yn cael dylanwad arbennig ar y cynhyrchiad cyfan.
"Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn ennill llawer o’r profiad. Mae'n wych ar gyfer adeiladu hyder a sgiliau bywyd yn gyffredinol a bydd ein perfformwyr ifanc yn derbyn tystysgrif ar y diwedd a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer CV neu wrth wneud cais am gwrs arall.
"Mae bod yn rhan o’r paratoi a’r perfformiad o flaen cynulleidfa fyw yn brofiad gwych a byddwn yn annog unrhyw seren ifanc addawol sydd â’r mymryn lleiaf o awydd i gymryd rhan i ddod draw i un o'r clyweliadau."
Cynhelir clyweliadau actio ar gyfer pobl ifanc 17-19 oed ar 16 Mawrth am 7pm ac ar 18 Mawrth am 12 canol dydd. Bydd clyweliadau ychwanegol ar gyfer rhai dan 19 oed yn cael eu cynnal dros benwythnos y Pasg ond mae'r dyddiadau a’r amseroedd eto i'w cadarnhau.
Bydd y perfformiad ei hun yn cael ei gynnal ar Fehefin 7, 8, 9 a 10 gydag ymarferion bob penwythnos o 18 Mawrth ymlaen tan 2 Mehefin gyda’r paratoadau terfynol yn digwydd dros y pum diwrnod cyn y perfformiad cyntaf.
Datgelodd Russell, a ddechreuodd ei yrfa fel actor gan ddod yn bersonoliaeth teledu adnabyddus yn ddiweddarach, y byddai'n hoffi gweld rhywbeth clasurol gan bobl yn y clyweliadau actio.
"Gall fod yn glasur modern fel Dylan Thomas ac Arthur Miller neu gallant fynd am Shakespeare, barddoniaeth o'u dewis neu efallai rhywbeth y maen nhw eu hunain wedi’i ysgrifennu neu ei gyfansoddi.
”Ar gyfer y canu fe allent naill ai ganu a cappella, neu ddod â thrac cefndir neu gael rhywun i chwarae'r piano iddynt. O ran y dawnsio, dydw i ddim yn disgwyl y Bolshoi neu rywbeth sy’n ddigon da i Diversity, rwyf am i bobl ddangos i mi eu bod nhw’n gallu symud a bod ganddyn nhw ychydig o rythm.
"Mae'r clyweliadau yn ddigwyddiadau diffwdan a hamddenol iawn ac rwy'n hoffi treulio amser yn sgwrsio gyda phawb. Mae hynny'n bwysig gan eu bod nhw wedi rhoi o’u hamser i ddod i'r clyweliad."
Mae Russell yn teimlo'n gryf bod gan bawb greadigrwydd a gallu i berfformio, rhywbeth yr oedd yn gallu dangos ei hun yn ystod ei gyfnod llwyddiannus iawn ar Strictly Come Dancing ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf."
Meddai: "Byddwn wrth fy modd yn rhannu rhywfaint o'r profiad gwych yna gyda phobl eraill a'u helpu i wireddu eu potensial perfformio go iawn a dyna sy’n fy ysgogi i helpu gyda Strictly Divas."
Am fwy o wybodaeth am y clyweliadau ffoniwch 01766 780363 neu e-bostiwch c.williams@fc.harlech.ac.uk
Mae gan y cynhyrchiad dudalen Facebook hefyd.
I wybod mwy am Goleg Harlech ewch i www.harlech.ac.uk/