Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Cynlluniau ar gyfer cam newydd Neuadd y Ddinas

Bydd Neuadd y Ddinas hanesyddol Abertawe'n elwa o gam newydd yn y gwaith gwerth miliynau o bunnoedd i'w hadfer.

Bydd gwaith ar welliannau ychwanegol i'r adeilad eiconig, sydd wedi darparu cefndir rheolaidd i anturiaethau Dr Who, yn dechrau'n hwyrach eleni.

Bydd Siambr y Cyngor fawreddog a hanesyddol, swyddfeydd, ystafelloedd pwyllgor a Pharlwr yr Arglwydd Faer yn yr adeilad yn elwa o systemau a gwasanaethau trydanol a gwresogi newydd yn ogystal â gwelliannau i adeiladwaith yr adeilad sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio llym ar gyfer adeiladau rhestredig.

Meddai Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Nod y cynllun fydd cadw nodweddion hanesyddol a drysorir Neuadd y Ddinas wrth alluogi'r adeilad i elwa o wresogi ynni-effeithlon a gwelliannau i'r isadeiledd trydanol ac i adeiladwaith yr adeilad a diogelwch gwell.

"Mae'r gwaith yn angenrheidiol i sicrhau bod Neuadd y Ddinas yn adeilad gweithio o ble gallwn wasanaethu ein cymunedau am genedlaethau i ddod. Bydd hefyd yn golygu gostyngiadau mewn biliau cyfleustodau."

Nod cam diweddaraf y prosiect i ddiogelu'r adeilad rhestredig Gradd 1 i genedlaethau'r dyfodol yw manteisio i'r eithaf ar ei botensial fel swyddfeydd hanfodol i staff a darparu amrywiaeth o wasanaethau i'r cyhoedd a lleoliad ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.

Cyhyd â bod y Cabinet yn cytuno ar y manylion ym mis Ebrill, bydd Cam Pedwar y cynllun yn ceisio adfer gwasanaethau ailosod y Bloc Dinesig, y mae rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 1934 pan agorwyd Neuadd y Ddinas.

Mae'r ardal yn cynnwys Neuadd Siôr, Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Ystafelloedd Pwyllgor, Siambr Cyngor Neuadd y Ddinas a Swyddfa Neuadd Brangwyn a swyddfeydd dros ddau lawr.

Yn ystod y cam hwn, bydd Neuadd Brangwyn ar agor ar gyfer busnes fel arfer gyda mynediad drwy brif ddrysau Neuadd Brangwyn.

Gallai gwaith ddechrau ar y Bloc Dinesig erbyn diwedd mis Ebrill, yn amodol ar ganiatâd gan y Cabinet. Bwriedir cwblhau'r cynllun gwerth £6 miliwn yn 2015.

Mae'r cynigion yn cynnwys gwella goleuadau, p?er, cynllun a gwasanaethau TGCh i ddarparu swyddfeydd a lle i storio archifau hyblyg.

Bydd y brif fynedfa o dan fynedfa'r t?r cloc ar gau a bydd prif fynedfa dros dro'n cael ei sefydlu ar ochr arall yr adeilad drwy gydol y gwaith.

Meddai Martin Nicholls, Pennaeth Gwasanaethau Adeiladu ac Eiddo Corfforaethol, "Mae'r cyngor yn parhau i symud rhaglen wella sylweddol ymlaen i adeilad eiconig a fydd yn helpu i gadw treftadaeth Abertawe.

"Nid yw manylion y cam hwn wedi'u cadarnhau eto ac maent dal yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet ond bydd y rhaglen yn sicrhau ei fod yn adeilad sy'n addas at y diben am flynyddoedd i ddod a hefyd yn diwallu anghenion effeithlonrwydd ynni modern.

Rhannu |