Mwy o Newyddion
AC yn croesawu protestwyr ac yn cymryd eu dadl i’r Gweinidog Iechyd
Mae’r AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi croesawu ymgyrchwyr iechyd o Lanelli i’r Senedd, a chymryd eu dadl i’r Gweinidog Iechyd.
Mae mwy na 9,000 o bobl o’r dref wedi arwyddo deiseb i gadw gwasanaethau iechyd yn Llanelli. Cyflwynwyd y deiseb i bwyllgor deisebau y Cynulliad Cenedlaethol wedi rali ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Phillip ar risiau’r Senedd.
Yn ystod y cyfarfod gyda’r Gweinidog, fe amlinellodd Mr Thomas sylwebaeth yr ymgyrch SOSPPAN gam wrth gam a’u hymateb i ddogfen trafodaeth Hywel Dda Eich Iechyd/Eich Dyfodol.
Dywedodd AC Gorllewin a Chanolbarth Cymru Simon Thomas: “Arweiniodd y ddeiseb at y cyfarfod gyda’r Gweinidog Iechyd. Gwnaethom yn siwr fod sylwadau’r 9,000 o bobl a arwyddodd y ddeiseb i ddiogelu gwasanaethau yr ysbyty yn Llanelli yn cael eu clywed yn glir ganddi.
“Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth roedd ganddom AC Plaid yn Llanelli oedd yn siarad dros yr ardal, ac fe buddsoddwyd mwy na £15m yn Ysbyty y Tywysog Phillip. Bu Plaid Cymru yn dryw i’w air i bobl Llanelli a Chymru wrth gefnogi ysbytai ar draws Cymru. Dyna a wnaethom yng Nghymru a dyna y byddwn ni’n gwneud nawr.”