Mwy o Newyddion
Torïaid wedi eu cloi ym meddylfryd Llundain
Mae Plaid Cymru wedi wfftio dadl a ddygwyd gerbron y Cynulliad gan y ceidwadwyr am eu hagwedd adweithiol tuag at ddatganoli. Wrth alw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian canlynol Barnett i ddynwared polisi llywodraeth y DG a rhewi treth y cyngor, dangosodd y Blaid Geidwadol yng Nghymru mai ei meistri yn Llundain sy’n ei harwain, ac nad yw’n meddu ar yr arloesedd i weithredu atebion Cymreig i broblemau Cymreig.
Galwodd Plaid Cymru am i’r £38.9m a basiwyd ymlaen i Lywodraeth Cymru trwy ganlyniad Barnett a gynhyrchwyd gan rewi’r dreth gyngor yn Lloegr i gael ei fuddsoddi mewn Cynllun Gwarchod Swyddi Busnesau Bach i helpu i fusnesau aros yn hyfyw a chadw swyddi wrth i’r argyfwng economaidd ddyfnhau.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas: “Mae’r syniad y dylai Cymru rewi treth y cyngor dim ond oherwydd mai dyna sydd wedi digwydd yn Lloegr yn adweithiol ac yn mynd yn groes i ddatganoli. Ystyr datganoli yw bod Cymru yn medru gosod ei hagenda ei hun, a darganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig, ac am hynny y galwodd Plaid Cymru.
“Mae’n edrych fel petai’r Ceidwadwyr am ddychwelyd i ddyddiau duon Redwood lle roedd ‘Cymru yn golygu Lloegr’. Mae’n amlwg fod y blaid Geidwadol yng Nghymru yn cael eu dan ar dennyn Llundain. Ond does ar Gymru ddim angen atebion Lloegr i’r problemau ni.
“Mae Plaid Cymru wedi galw ar i arian canlynol Barnett gael ei fuddsoddi mewn Cynllun Gwarchod Swyddi Busnesau Bach. Fe wnaethom amlinellu cynlluniau fuasai’n creu cronfa i helpu busnesau bach gadw eu pennau uwch y dŵr a chadw swyddi. Busnesau bach yw anadl einioes economi Cymru, ac o’r herwydd, mae’n hanfodol fod Lywodraeth Cymru yn cymryd y camau y gall i’w gwarchod yn ystod yr amseroedd economaidd anodd hyn.”