Mwy o Newyddion
Lle mae mesurau caled yn gweithio’n dda? Gwlad Groeg, medd y Ceidwadwyr!
Mae Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi datgelu eu bod yn edrych ar Wlad Groeg ac yn hawlio fod mesurau llym yn gweithio’n dda yno.
Yn ystod dadl yn y Senedd, heriwyd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Economi Nick Ramsey AC i enwi un wlad lle’r oedd mesurau ariannol llym yn gweithio. Ateb Mr Ramsey oedd “Gwlad Groeg”.
Yn dilyn hyn, meddai AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas: “Mae’n rhyfeddol nid yn unig fod y Ceidwadwyr yn anwybodus am yr hyn sy’n digwydd yng Ngwlad Groeg, ond bod eu llefarydd ar yr Economi yn amharod hefyd hyd yn oed i gymryd arno fod mesurau llym ei blaid ef ei hun yn gweithio’n dda.
“Yr hyn fydd yn rhoi cychwyn i economi Cymru fydd symbyliad cyllidol – gwario gan y llywodraeth i gefnogi’r economi a diogelu swyddi. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a llywodraeth Geidwadol/Dem Rhydd y DG fel ei gilydd yn gwadu’r effaith gaiff eu diffyg gwario. Dylid dal y ddwy lywodraeth i gyfrif yn llawn am eu diffyg gweithredu i helpu pobl yn ystod yr argyfwng economaidd hwn.”