Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Croesawu ymateb rhagorol i’r cynigion ar y ddeddfwriaeth rhoi organau

Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi cymryd y cyfle ar Ddiwrnod Arennau’r Byd i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth rhoi organau a meinwe.

Cafwyd cyfanswm o 1,234 o ymatebion, ac mae crynodeb o’r ymatebion hynny wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau 8 Mawrth). I nodi hyn a thynnu sylw at Ddiwrnod Arennau’r Byd, cyfarfu’r Gweinidog â staff a chleifion yr Uned Arennau yn Ysbyty Maelor Wrecsam y bore yma.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 7 Tachwedd 2011 a 31 Ionawr 2012. Er nad oedd yn gwahodd pobl i gefnogi neu wrthwynebu’r cynigion yn benodol, rhoddodd 91% o’r ymatebwyr eu barn. Roedd 52% (646) o’r holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion, a 39% (478) yn eu gwrthwynebu.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi cael cynifer o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth bwysig hon a fydd yn achub bywydau.

“Rwy’n ymwybodol bod rhoi organau yn bwnc emosiynol a bod gan lawer o bobl farn gref ar y mater. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno system feddal o optio allan o roi organau a allai gynyddu o 25 y cant nifer yr organau sy’n cael eu rhoi yn ôl y dystiolaeth.

“I bobl sydd angen trawsblaniad, fel rhai o’r rheini i mi gwrdd â nhw yn Uned Arennau Maelor Wrecsam heddiw, mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig iawn. Er bod cynnydd wedi bod yng Nghymru yn ddiweddar yn nifer yr organau a meinwe sy’n cael eu rhoi, ar gyfartaledd mae un person yr wythnos yng Nghymru yn marw yn aros am drawsblaniad oherwydd diffyg rhoddwyr addas.

“Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig wedi arwain at drafodaeth ddiddorol iawn am roi organau. O ganlyniad, rydyn ni wedi cael cyfraniadau craff iawn i’r ymgynghoriad, ac rwy’n ddiolchgar amdanyn nhw.

“Byddwn ni’n ystyried y cyfraniadau hyn yn ofalus wrth i ni ddatblygu’r Bil drafft, sydd i’w gyhoeddi i ymgynghori arno cyn yr haf.

”Y nod yw sefydlu’r system newydd yn 2015. Yn y cyfamser, mae’n bwysig bod pobl yn trafod eu dymuniadau gyda’u teulu a’u ffrindiau ac yn ymuno â’r gofrestr rhoi organau.”

Llun: Lesley Griffiths

Rhannu |