Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Plaid Cymru yn croesawu’r gefnogaeth i system optio allan o roi organau

Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC, heddiw, wedi croesawu’r gefnogaeth i roi organau. Dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr i ymgynghoriad cyhoeddus eu bod nhw o blaid cynlluniau i newid y gyfraith yng Nghymru i system feddal o optio allan o roi organau.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC: “Mae Plaid Cymru yn croesawu’r gefnogaeth yma tuag at system o ganiatâd tybiedig. Mae mwyfwy o bobl yn disgwyl am drawsblaniadau bob blwyddyn ac fel y mae pethau ar hyn o bryd mae gormod o bobl yn marw tra ar y rhestr aros a byddem ar fai am beidio gweithredu.

“O dan y system bresennol mae nifer fawr o bobl a fyddai’n hoffi rhoi organau ond sydd heb gofrestru. Byddai symud i system o optio allan yn sicrhau cynnydd yn y nifer y bobl sy’n rhoi organau a cholli llai o fywydau yn ddiangen. Nid yw’r system yn dwyn ymaith hawl yr unigolyn i benderfynu - os nad yw rhywun eisiau rhoi ei organau, yna’n syml gallent optio allan.

“Yn wyneb y dadleuon o amgylch y mater yma mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael trafodaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac agored. Croesawaf y newyddion fod y mwyafrif o ymatebwyr i’r ymgynghoriad cyhoeddus yma o blaid y system optio allan.”

 

Rhannu |