Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – Galwad i atgyfnerthu rôl menywod yn y sector breifat

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Mawrth 8), mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi ymgais gan Gomisiwn Ewrop i gynyddu’r nifer o fenywod yn swyddi gorau’r sector breifat. Mae’r Comisiwn wedi lansio ymgynghoriad i gyfeirio at dan-gynrychiolaeth menywod ar fyrddau cwmnïau rhestredig ac mae wedi awgrymu y gallai deddfwriaeth ddilyn.

Yng Nghymru, datgelwyd mewn astudiaeth llynedd taw dim ond mewn dau allan o’r 50 cwmni mwyaf yn y wlad mae gan fenywod swyddi uwch. O amgylch y DG, mae tua 16% o aelodau bwrdd y cwmnïau rhestredig mwyaf yn fenywod o gymharu â chyfartaledd Ewrop o 14%.

Mae gan unig gwmni rhestredig Cymru sydd wedi ‘i restru yn y FTSE 100 - Admiral Insurance, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd - ddwy fenyw allan o un ar ddeg aelod o’r bwrdd.

Mae Comisiwn Ewrop wedi tynnu sylw at ymchwil annibynnol sydd yn dangos bod enillion mewn cwmnïau sydd ag o leiaf un fenyw ar y bwrdd yn sylweddol uwch na chwmnïau heb unrhyw aelod benywaidd ar y bwrdd. Mae astudiaeth arall yn dangos bod gan gwmnïau sy’n gytbwys o ran rhyw, elw gweithredol uwch na chwmnïau sydd â dynion yn unig.

Wrth siarad, dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans: "Mae hanner y gweithlu yn fenywod, ond maen nhw’n parhau i gael eu tangynrychioli ar ben y sector breifat.

"Yn ystod yr adegau economaidd anodd hyn mae angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o sbarduno swyddi a hybu twf. Dangoswyd bod cael mwy o fenywod ar lefel uwch yn y sector breifat yn rhoi canlyniadau cadarnhaol.

"Mae targedu gwirfoddol yn un dewis, ond os wnaiff hynny fethu â dod â newid cadarnhaol yna rhaid ystyried dulliau amgen eraill. Byddai gorfodi cwotâu yn anodd a dadleuol, ond rhaid iddo fod yn un o’r dewisiadau i’w hystyried.

"Dangoswyd bod y cwmnïau mwyaf sydd â chanddynt fenywod mewn swyddi uchel a chydbwysedd rhyw da, wedi perfformio’n gryf. Dyna’r math o lwyddiant sydd angen i ni ei hybu er mwyn ein helpu i ddod drwy’r adegau economaidd anodd hyn."

Rhannu |