Mwy o Newyddion
Ymgyrch Unite i ddatblygu sgiliau yn y sector ynni a chyfleustodau
YMUNODD y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, ag undeb llafur Unite i lansio prosiect tair blynedd newydd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) sef ‘Sgiliau ar gyfer y Sector Ynni a Chyfleustodau’ (SEUS) yr wythnos yma.
Nod y prosiect Unite hwn yw ceisio darparu hyfforddiant sgiliau hanfodol i staff ar draws y sector, yn enwedig ar gyfer y staff hynny y gallai eu swyddi fod mewn perygl o gael eu dileu. Caiff y prosiect ei gefnogi gan gwmni cyfreithiol blaengar yn Ne Cymru sef Leo Abse and Cohen a Walker Smith Way. Bydd y prosiect yn ceisio denu pobl nad ydynt fel rheol yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu i ymwneud â darpariaeth sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, defnyddio rhifedd a TGCh, yn ogystal ag adeiladu ar sgiliau sydd eisoes yn bodoli er mwyn gwella cymwysterau galwedigaethol a chefnogi agwedd strategol Llywodraeth Cymru ym maes ynni.
Mae’r prosiect yn bwriadu agor tair canolfan dysgu rhanbarthol SEUS ledled Cymru, darparu cyrsiau sgiliau mewn o leiaf 30 o weithleoedd a recriwtio a hyfforddi 30 o Gynrychiolwyr Dysgu Undeb newydd ar draws y sector.
Cafodd y lansiad ei gynnal yn Galeri Caernarfon Cyf yng Nghaernarfon gydai cyflogwyr allweddol, cynghorau sir, TUC Cymru, cynrychiolwyr Unite, aelodau o’r cyngor sgiliau sector a rhanddeiliaid eraill yn bresennol.
Meddai Mr Cuthbert: “Mae prosiect Sgiliau ar gyfer y Sector Ynni a Chyfleustodau yn gyfle gwych i gyflogwyr greu llwybr i’w staff at ddysgu. Mae’r sector ynni yn ganolog i lwyddiant economi Cymru ac yn hanfodol wrth geisio tynnu Cymru o’r dirwasgiad. Gyda datblygiadau pwysig yn digwydd yn y diwydiant niwclear, mae meithrin partneriaethau a datblygu sgiliau yn y sector hwn yn hanfodol bwysig.
"Dyma enghraifft bwysig arall lle mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng ngweithlu Cymru ac yn wir, enghraifft arall o’r ffordd yr ydym yn mynd ati i gefnogi ein gweithwyr a’n busnesau yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.”
Meddai Peter Hughes, swyddog cydgysylltu rhanbarthol Unite: "Fuodd hi erioed mor bwysig o’r blaen i wneud yn siŵr bod gan weithwyr y sgiliau angenrheidiol i gadw’r swyddi y maen nhw ynddyn nhw, i gael eu dyrchafu neu i geisio cael eu hailgyflogi.
"“Mae’r farchnad lafur fodern yn mynnu bod sgiliau yn cael eu gwella o hyd ac o hyd ac yn mynnu bod staff yn mynd ati i geisio sgiliau newydd drwy gydol eu gyrfaoedd. Er bod sgiliau sylfaenol yn parhau’n flaenoriaeth gennym ni, mae’r prosiect hwn hefyd yn ymwneud ag annog a chefnogi hyfforddiant arbenigol er mwyn darparu’r sgiliau penodol sydd eu hangen yn y gweithle modern.”
Gyda chyllideb o £180,000, bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda rhaglenni eraill a ariennir yn gyhoeddus a chyda cyflogwyr mawr eraill yn y sector. Ochr yn ochr â Sgiliau Ynni a Chyfleustodau, NSAN, Cogent a chyflogwyr partner eraill, bydd Unite yn datblygu darpariaeth ym maes datblygu cynaliadwy mewn cysylltiad â’r fframwaith sgiliau hanfodol. Bydd SEUS yn brosiect tair blynedd a fydd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â chwaer brosiect Unite sef ‘Step Up to Learning.’
Llun: Jeff Cuthbert