Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Y Prif Weinidog yn hyrwyddo Cymru yn America

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynd â’r neges bod Cymru’n barod am fusnes i America yr wythnos hon.

Bydd yn ymweld â Washington DC ac Efrog Newydd tan ddydd Sul, 11 Mawrth, i hyrwyddo Cymru fel lle da i fusnesau mewn rhaglen brysur o gyfarfodydd a digwyddiadau.

Yn Washington DC, bydd yn tynnu sylw arweinwyr busnes at lwyddiant y sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru mewn digwyddiad a drefnir ar y cyd ag UK Trade & investment (UKTI). Bydd yn cael trafodaethau hefyd â Dirprwy Lysgennad y Deyrnas Unedig (y DU) a chyda General Dynamics, buddsoddwr mawr yng Nghymru.

Bydd y Prif Weinidog yn ymweld hefyd â swyddfeydd FAUN TRACKWAY, cwmni gweithgynhyrchu o Ynys Môn sydd wedi ehangu i’r Unol Daleithiau. Gyda’r nos, bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad busnes ar y cyd â Dirprwy Lysgennad y DU.

Yn Efrog Newydd, bydd yn cynnal brecwast i bobl fusnes gyda’i Ardderchowgrwydd Peter Westmacott, Llysgennad newydd Prydain yn Washington, Danny Lopez, Conswl Cyffredinol Prydain yn Efrog Newydd, Syr Terry Matthews, entrepreneur o Gymru ac UK Trade & Investment (UKTI). Bydd y digwyddiad yn hybu arloesedd yng Nghymru. Bydd wedyn yn cwrdd â threfnwyr a’r cyfryngau gwyliau i esbonio iddynt bod Cymru’n lle da am wyliau.

Gyda’r hwyr, bydd Cymdeithas Dewi Sant Talaith Efrog Newydd yn cyflwyno medal Hopkin i’r Prif Weinidog fel cydnabyddiaeth o’i wasanaethau dros Gymru. Bydd yn mynychu perfformiad o ‘Look Back in Anger’ gyda’r actor Matthew Rhys yn actio ynddo ac yn mynychu ‘Jewish Tales from Wales: a film series’, digwyddiad sydd wedi cael nawdd gan Lywodraeth Cymru ac sy’n hybu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iddewon.

Meddai’r Prif Weinidog: "Yr Unol Daleithiau yw pwerdy economaidd a gwleidyddol y byd, a dyna pam y bydda’ i’n mynd yno â neges gref bod Cymru’n barod am fusnes. Mae gennym weithlu ardderchog a hanes rhagorol o gynnig cartref croesawgar a chefnogol i gwmnïau o America. Dyna pam fod cwmnïau fel Conduit a DRIAS Transnat yn dewis Cymru fel eu cartref Ewropeaidd.

"Mae yna ryw 210 o gwmnïau yng Nghymru sydd naill ai’n eiddo i Americaniaid neu sydd â’u prif swyddfa yn America. Rhyngddyn nhw maen nhw’n cyflogi tua 30,000 o bobl, a hynny mewn sectorau fel y sector awyrofod gyda chwmnïau fel General Eelectric a Magellan, y sector moduron gyda Ford a chwmnïau gwyddorau bywyd fel Biomet a ConvaTec. Rwyf am adeiladu ar y llwyddiant hwn a dangos i Americaniaid yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Amcan fy Llywodraeth yw annog mwy o Americaniaid i fuddsoddi yng Nghymru ond yr un pryd, helpu busnesau o Gymru i ehangu yn UDA."
 

Rhannu |