Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2012

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i wella llif y traffig ar yr M4

MAE Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad i edrych ar y problemau a wynebir gan yrwyr sy’n defnyddio’r M4 rhwng Magwyr a Chas-bach.

Bydd yr Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 ar agor tan 6 Mehefin, a bydd y cyhoedd yn cael y cyfle, trwy arddangosfeydd, gweithdai, ffurflenni ymateb a gwefannau, i amlygu unrhyw broblemau y maen nhw wedi’u cael ar y darn hwn o’r M4, ac i leisio’u barn am y ffordd orau o ddatrys y problemau hynny.

Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod tagfeydd traffig yn broblem ar y darn hwn o’r M4. Felly mae gwella llif y traffig ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru ac yn un o’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, sydd hefyd yn flaenoriaeth.

“Mae’n hanfodol ei bod hi’n hawdd mynd at ysgolion, ysbytai a lleoedd gwaith os ydyn ni am wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn modd sy’n ein helpu i fod yn gystadleuol.

“Hoffwn annog pobl i roi eu sylwadau a dweud wrthym am eu profiadau trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn. Gallwn wedyn fynd ati i wella’r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn ar gyfer y dyfodol.”

Y llynedd, daeth amrywiaeth o bobl sy’n defnyddio ac yn rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth rhwng cyffordd 23a a chyffordd 29 at ei gilydd i edrych ar nifer o bosibiliadau.
Gwnaethon nhw argymell nifer o opsiynau a allai helpu i ddatrys problem y tagfeydd ar y darn hwn o’r M4.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddod i ddeall yr argymhellion hynny a lleisio barn ar y dewisiadau a gynigir i ddatrys y broblem.

Yn ogystal â gweithdai a sesiynau galw heibio, gallwch gael rhagor o wybodaeth a rhoi eich sylwadau trwy fynd i www.m4cem.com neu www.wales.gov.uk/consultations

Mewn ymateb i’r newyddion fod y llywodraeth Lafur wedi agor ymgynghoriad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth, Rhodri Glyn Thomas: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried hyrwyddo’r gwaith a gychwynnwyd gan Weinidog Trafnidiaeth Plaid Cymru dan lywodraeth Cymru’n Un i edrych i mewn i ddewisiadau posibl i liniaru tagfeydd yn ardal Casnewydd.

“Pan gymerodd Plaid Cymru y penderfyniad dewr i beidio â bwrw ymlaen a ffordd liniaru fewnol yr M4 , fe nodwyd nifer o ddewisiadau posibl gennym i liniaru tagfeydd ar y rhan bwysig hon o’r M4.

“Y mae’n hanfodol bellach fod Llafur yn edrych o ddifrif ar y dewisiadau eraill hyn – dyma’r math o brosiectau buddsoddi cyfalaf all roi’r hwb hollbwysig i economi Cymru y buom ni’n galw amdano.

“Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, dechreuodd Ieuan Wyn Jones ar waith i ddwyn y ffordd Ddosbarthu Ddeheuol i ddefnydd gan y cyhoedd. Dyma enghraifft dda o gynllun cyfalaf y dylid ei flaenoriaethu a’i roi ar y llwybr cyflym gan Lywodraeth Cymru yn awr, er mwyn symbylu’r economi lleol a gwella cysylltiadau trafnidiaeth.”

Rhannu |