Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2012

Cynnal arolwg o gylchgronau Saesneg Cymru

Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau y bydd yn comisiynu arolwg o gylchgronau Saesneg Cymru gan roi sylw penodol i’r cyhoeddiadau sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor.
Yn ystod y cyfnodau ariannu diweddar, cefnogwyd nifer o gylchgronau yn y maes llenyddol gan gynnwys New Welsh Review, Planet a Poetry Wales, atodiad llyfrau yn y cylchgrawn Cambria, yn ogystal â naw o gylchgronau llai. Bydd yr arolwg annibynnol, a fydd yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn ariannol 2012/13, yn rhan o raglen arferol y Cyngor o fonitro a gwerthuso’r cynlluniau grant er sicrhau deunydd darllen amrywiol ac apelgar ar gyfer darllenwyr.
“Gyda phrinder gofod mewn cyhoeddiadau eraill, i sicrhau sylw teilwng i lenyddiaeth a threftadaeth Cymru yn Saesneg, mae gan y cylchgronau hyn rôl bwysig yn cyflwyno a thrafod ein treftadaeth lenyddol,” meddai’r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau.
“Yr ydym hefyd yn ymwybodol o’r newidiadau ym mhatrwm darllen pobl ac fe fydd cyfle drwy’r arolwg hwn i ystyried natur y cyhoeddiadau a’r modd gorau o gyrraedd cynulleidfa sydd bellach yn derbyn gwybodaeth ar ffurf print ac yn ddigidol.”
Bydd yr arolwg yn gymorth i lunio polisi ynghylch y math o ddeunydd y dylid ei gefnogi, gan ystyried y ddarpariaeth bresennol yn ogystal â’r amrywiaeth ehangach o gylchgronau sydd ar gael yng Nghymru a’r tu hwnt. Bydd hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i gasglu barn darllenwyr.
“Yn y gorffennol mae’r Cyngor wedi bod yn ystyried ceisiadau’r prif gylchgronau yn gwbl annibynnol ar y cylchgronau llai,” ychwanegodd yr Athro Thomas “ac un fantais fawr o gael arolwg cyflawn yw’r ffaith y bydd modd edrych ar yr holl ddarpariaeth yn ei gyfanrwydd.”
Rhagwelir y bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu yn 2014 a nodir isod y cylchgronau a fydd yn derbyn cefnogaeth ariannol am y cyfnod 2012–14. Yn unol â’r broses arferol, bydd y grantiau i gylchgronau bychan yn cael eu hystyried gan y Panel Grantiau ym mis Gorffennaf.

Poetry Wales £28,540
Planet £70,300
New Welsh Review £58,907
Agenda £8,000

Ar argymhelliad yr Is-banel Cylchgronau ac yn dilyn trafodaeth ddwys yn y Panel Grantiau, penderfynwyd nad oedd modd parhau i gynnig grant i gylchgrawn Cambria a hynny oherwydd eu rhaglen gyhoeddi afreolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cytunwyd i gefnogi’r cylchgrawn Agenda, am y tro cyntaf, i ddarparu gofod i adolygu a thrafod llenyddiaeth Saesneg o Gymru o fewn y cyhoeddiad.
“Mae aelodau’r Panel Grantiau yn awyddus iawn i weld canlyniadau’r arolwg,” meddai’r Athro Thomas, “ac fe fydd yn sicr o gymorth mawr i ni wrth geisio cynnal a datblygu maes cylchgronau Saesneg Cymru.”

Rhannu |