Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2012

Technoleg newydd i leihau damweiniau ar fynyddoedd Eryri.

Mae nifer y galwadau am gymorth i Dimau Achub Mynydd yn Eryri wedi cynyddu'n sylweddol. Ond, bydd technoleg fodern symudol ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth sy’n cael ei lansio heddiw, yn cyfrannu tuag at leihau’r galwadau hyn yn ogystal â chyfrannu at fwynhau’r ardal yn fwy diogel.

 

Heddiw (dydd Llun 13 Chwefror), lansiwyd y Gwasanaethau Gwybodaeth Mynydda yn ffurfiol gan Hywel Williams AS yng Nghanolfan Warden Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhen y Pass. Nod y Gwasanaeth yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fynyddwyr a cherddwyr, yn ogystal â chyngor diogelwch traddodiadol fydd yn eu galluogi i gynllunio taith neu gerdded yn ddiogel ym mynyddoedd Eryri.

 

Yn ystod 2011, gwnaed 411 o alwadau am gymorth i Dimau Achub Mynydd wrth i bobl fentro i Ogledd Cymru i fwynhau prydferthwch a rhinweddau arbennig yr ardal. Arweiniodd hyn at dimau yn cael eu hanfon allan 291 o weithiau. Ond, dengys ymchwil diweddar fod nifer sylweddol o alwadau diangen a wnaed, wedi eu gwneud gan oedolion gwrywaidd ifanc nad oedd wedi paratoi'n ddigonol neu nad oedd ganddynt y sgiliau na’r offer angenrheidiol ar gyfer eu gweithgareddau. Daw’r arolwg "Lleihau Damweiniau Mynydd yn Eryri" i'r casgliad fod oedolion gwrywaidd ifanc o ardaloedd trefol yn bennaf gyfrifol am y galwadau diangen hyn.


Mae'r cynllun Gwasanaeth Gwybodaeth Mynydd wedi ei dargedu at y gynulleidfa benodol hon drwy ddefnyddio technoleg fodern, a heddiw ym Mhen y Pass, bydd Ap iPhone yn cael ei lansio gan Hywel Williams, AS.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Rwyf wrth fy modd yn lansio'r Prosiect arloesol hwn. Mae pobl yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg ffôn symudol - a’r rhyngrwyd symudol yn benodol - i gael gwybodaeth. Trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes diogelwch mynydd, sy'n fater mor bwysig mewn ardaloedd fel Eryri, mae mwy o gyfle i atal damweiniau a hybu mwynhad diogel o’n bryniau a’n mynyddoedd gwych. Yn ei dro, bydd hyn yn lleddfu’r pwysau ar y Timau Achub Mynydd lleol. Hoffwn longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Gwybodaeth Mynydd, ac yn gobeithio bydd yr holl fynyddwyr a cherddwyr, boed yn drigolion lleol neu’n ymwelwyr, yn manteisio'n llawn ar y cyngor a'r wybodaeth sydd ar gael."

 

Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir Emyr Williams,

"Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth Mynydd. Fel Awdurdod, rydym yn mawr obeithio y bydd yr Ap iPhone hwn yn adnodd defnyddiol ar gyfer ymwelwyr i Eryri a bydd nid yn unig yn cyfrannu at eu mwynhad o'r ardal, bydd hefyd yn golygu y byddant yn mwynhau'r ardal yn ddiogel. Mae'r prosiect hefyd yn cyfrannu tuag at agenda Iechyd a Lles Llywodraeth Cymru, o les seicolegol a chorfforol ymwelwyr, i les economaidd cymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol.”

 

Ychwanegodd Elfyn Jones, Swyddog Cymru y Cyngor Mynydda Prydeinig (BMC),

"Er mwyn helpu’r gynulleidfa benodol hon, yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol, datblygwyd yr Ap i helpu lleihau nifer y galwadau brys diangen ac, yn bwysicach, i helpu cerddwyr i fwynhau'r awyr agored gwych yn ddiogel ac yn gyfrifol. Er bod ymwelwyr yn gallu ymchwilio i'r ardal ar y rhyngrwyd cyn dod, efallai na fydd rhai yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddarllen a defnyddio mapiau a dydyn nhw ddim wedi paratoi eu hunain i deithio’n ddiogel yn y mynyddoedd. Mae’r Ap yma yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ymwelwyr sy'n cynllunio taith ar yr Wyddfa a bydd yn eu helpu i benderfynu cyn cychwyn ar eu taith."


Cefnogir y bartneriaeth gan y Cyngor Mynydda Prydeinig, Hyfforddiant Arweinydd Mynydd (Cymru), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Swyddfa Dywydd a Phlas y Brenin (y Ganolfan Fynydd Genedlaethol), gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru.

 

Dywedodd y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth Huw Lewis:

"Mae harddwch naturiol bryniau a mynyddoedd Eryri yn denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a'r byd. Mae'r Parc Cenedlaethol yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored a defnyddio’n campfa werdd i gadw'n heini. Mae sicrhau diogelwch ymwelwyr yn hollbwysig ar gyfer eu lles eu hunain ac i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaethau brys a thimau achub. Gall yr Ap hwn helpu ymwelwyr i gynllunio a pharatoi ar personol gyfer eu taith yn gywir ac rwy'n hynod falch fod arian Llywodraeth Cymru wedi helpu i'w datblygu."

 

Ychwanegodd Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon Cymru, Graham Williams,

"Mae'r amgylchedd naturiol, ar drothwy ein drws yma yng Ngogledd Cymru, yn faes chwarae perffaith ar gyfer teuluoedd ac unigolion i fod yn heini. Rydym yn falch o fod yn bartner i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Mynydd ac rydym yn gobeithio bydd yr adnoddau ardderchog hyn yn galluogi mwy o bobl frwdfrydig i fwynhau eu gweithgareddau awyr agored yn ddiogel ac y byddant wedi paratoi gymaint ag y bo modd cyn cyrraedd. "


Dywedodd Malcolm Weatherall, Ymgynghorydd Gwasanaeth Tywydd Cyhoeddus i Gymru,

"Mae cael y rhagolygon tywydd mynydd diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd yr un mor bwysig ag esgidiau cerdded da a map wrth i chi fentro i'r mynyddoedd. Gall y tywydd newid yn gyflym felly mae cael mynediad at y rhagolygon a fideos wrth symud yn ffordd wych o helpu pobl i gadw’n ddiogel fel y gallant fwynhau'r hyn sydd gan Eryri i'w gynnig."


Mae sefydliadau eraill sydd hefyd wedi cyfrannu ac yn cefnogi'r prosiect yn cynnwys Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru, Tîm Achub Mynydd Llanberis a Grŵp Mountainsafe Gogledd Cymru (sy'n cynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Sgwadron 22 Chwilio ac Achub yr RAF).

 

O ganlyniad i'r prosiect Gwasanaeth Gwybodaeth Mynydd, yn ychwanegol at y gwaith o ddatblygu'r Ap Gwybodaeth Mynydd newydd sydd ar gael o iTunes, mae tri adnodd ychwanegol wedi eu datblygu sy'n cynnwys:
• Adroddiad dyddiol gan Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri ar gyflwr o dan draed a lefelau eira ar y mynyddoedd yn ystod misoedd y gaeaf, gan gynnwys cyngor ar y sgiliau a'r offer angenrheidiol i fwynhau’r amodau hyn yn ddiogel. Mae'r adroddiadau yn darparu gwybodaeth i dudalen rhagolygon ardal Mynydd y Swyddfa Dywydd, www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mountainsafety/snowdonia/snowdonia_latest_pressure.html ac ar Twitter trwy ddilyn @safesnowdonia neu @eryridiogel.

• Cyfres o bum clip fideo byr gyda sylwebaeth gan Sian Lloyd, sy’n dangos y ffordd i baratoi ar gyfer taith yn y mynyddoedd, gan gynnwys osgoi perygl a beth i'w wneud mewn argyfwng. Mae'r rhain ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd a gwefannau YouTube. Ewch i www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mountainsafety/video.html

• Ymgyrch gyhoeddusrwydd a marchnata i roi cyhoeddusrwydd i'r prosiect, sy'n cynnwys posteri, baneri, taflenni a chomisiynu erthyglau mewn cylchgronau perthnasol a chyfnodolion.

 

Nododd dechreuwyr yn y cylchgrawn Trail yn hydref 2011, mai'r Ap Gwybodaeth Mynydd oedd yr Ap gorau ar gael ar gyfer cynllunio diogelwch ar y mynydd ac yn ddibynnol ar gyllid digonnol, y gobaith yw cynhyrchu fersiwn Gymraeg o’r Ap maes o law.

Rhannu |