Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2012

Monitro Yr Wyddfa

Ers pymtheg mlynedd bellach mae newidiadau amgylcheddol ar Yr Wyddfa wedi cael eu monitro’n fanwl, ac mae’r gwaith wedi dangos bod newidiadau yn y tymheredd, newidiadau mewn llygryddion atmosfferig a newidiadau mewn dulliau rheoli tir i gyd yn cael effaith ar y mynydd – yn fwy felly nag unrhyw amrywio naturiol.

Mae’r Wyddfa yn un o blith 12 o safleoedd ledled y DU sy’n perthyn i’r Rhwydwaith Newid Amgylcheddol, a chaiff ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Cefn Gwlad. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dechrau esgor ar gasgliadau diddorol iawn…

O safbwynt llygredd atmosfferig, mae yna newyddion da. O ganlyniad uniongyrchol i ymdrech y DU i leihau gollyngiadau sylffwr deuocsid, erbyn hyn mae yna lawer llai o law asid (neu lygredd sylffwr deuocsid) yn llygru cynefinoedd naturiol Yr Wyddfa.

Ond nid yw cyflwr y cynefinoedd yn debygol o ddychwelyd i’w hen ogoniant dros nos – mae hon yn broses araf. Ac mae llygredd parhaus – nitrogen ocsid, yn bennaf yn sgil ceir, ac osôn, yn bennaf
yn sgil diwydiannau – yn dal i gael effaith andwyol ar y llystyfiant.

Bu llawer o drin a thrafod ynglyn ag a fydd yr eira’n diflannu oddi ar Yr Wyddfa ryw ddydd o ganlyniad i hinsawdd yn cynhesu. Mae’r gaeaf hwn wedi bod yn un o’r rhai cynhesaf ar gofnod, ond cawson ddigonedd o eira y llynedd a’r flwyddyn cynt.

Mae’r Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yn ystyried y darlun mawr, ac yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf mae’r data’n awgrymu bod hinsawdd Yr Wyddfa wedi newid rhyw ychydig – mae tymheredd y gwanwyn a’r haf wedi codi ac mae’r gaeafau’n wlypach ac yn gynhesach.

Gan ei bod yn gynhesach ar y mynydd, cofnodwyd mwy o löynnod nag erioed o’r blaen – dyma bryfetach sy’n arwydd o newid amgylcheddol.

O safbwynt defnydd tir, mae yna newidiadau mawr wedi dod i ran yr ucheldiroedd yn ystod y deng mlynedd diwethaf, yn cynnwys gostyngiad sylweddol yn nifer y defaid. Gan fod llai o ddefaid yn pori’r llystyfiant, mae mwy o rug a glaswellt y gweunydd yn tyfu ar Yr Wyddfa, a cheir llai o
lecynnau glaswelltog. Mae hyn yn arwain at well amrywiaeth o blanhigion, sy’n newyddion da i fywyd gwyllt.

Yn ôl Dylan Lloyd, Swyddog Goruchwylio’r Amgylchedd gyda’r Cyngor Cefn Gwlad, ac un o awduron yr adroddiad: “Wrth i’r gwaith monitro fynd yn ei flaen, mi fydd Rhwydwaith Newid Amgylcheddol Yr Wyddfa yn parhau i olrhain newidiadau yn yr hinsawdd, mewn llygredd sy’n cael ei gario yn yr aer ac mewn dulliau rheoli tir, gan ddatgelu gwybodaeth werthfawr am effaith y
newidiadau yma ar gynefinoedd naturiol Yr Wyddfa.

“Mae bod yn rhan o rwydwaith ehangach o safleoedd ledled y DU yn rhoi mwy o werth i’n casgliadau. Mi allwn ni wahaniaethu rhwng amrywiadau tymor byr a phatrymau tymor hir.

"O’r herwydd, mae safleoedd y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yn amhrisiadwy wrth ymchwilio i iechyd yr ecosystemau sydd mor bwysig inni,” meddai i gloi.

Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan y Cyngor – http://www.ccgc.gov.uk/environmental-change/ecn-site.aspx?lang=cygb

Bydd casgliadau’r adroddiad yn cael eu cyflwyno a’u trafod yn ein gweithdy Monitro Safleoedd Natura 2000 Tirol yn Aberystwyth ar 21-22 Chwefror.

Rhannu |