Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Chwefror 2012

Rhybudd ynglŷn â gwerthwyr wrth y drws

Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn cynghori trigolion y sir i fod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o’i hawliau wrth brynu nwyddau neu wasanaethau gan werthwyr wrth y drws yn yr ardal.

 

Mae’r math o gynnyrch sy’n debygol o gael ei werthu gan werthwyr wrth y drws yn cynnwys matresi sbwng, cynhyrchion sy’n helpu pobl symud o gwmpas a chynhyrchion glanhau. Er bod y rhan fwyaf o werthwyr wrth y drws yn rhai dilys a gonest, mae’n bwysig cofio nad ydynt i gyd.

 

Mae’r uned yn rhybuddio prynwyr i beidio gwneud penderfyniad byrbwyll pan mae masnachwyr yn galw draw yn ddirybudd, ond i feddwl yn ofalus ac i gymharu prisiau cyn cytuno i brynu. Ni ddylai neb deimlo dan bwysau i brynu unrhyw beth yn syth.

 

Dywedodd John Eden Jones, Swyddog Masnach Teg sy’n gweithio i Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut i ddelio efo gwerthwyr wrth y drws. Dylai defnyddwyr bob amser gadw mewn cof mai nod gwerthwyr wrth y drws ydi cael person i brynu nwyddau ac mae rhai yn llawn perswad.

 

“Unwaith y maent dros eich trothwy, mae gwerthwyr wrth y drws yn disgwyl i chi brynu, ac mae profiad yn dangos nad ydi’r mwyafrif yn rhoi'r gorau iddi yn hawdd. Byddem yn cynghori unrhyw un sy’n cael ei rhoi dan bwysau gan werthwyr wrth y drws i ddweud wrthyn nhw eich bod eisiau trafod efo rywun arall cyn gwneud penderfyniad.”

 

Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd wedi llunio nifer o gynghorion ar gyfer prynwyr i gadw mewn cof er mwyn eu cynorthwyo wrth ddelio gyda gwerthwyr wrth y drws. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

siaradwch gydag ymwelwyr sydd wedi gwneud apwyntiad o flaen llaw yn unig
os oes gennych amheuon dywedwch ‘dim diolch’ a chau’r drws
gofynnwch am gael gweld adnabyddiaeth a gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad llawn a rhif ffôn y person yn gywir
meddyliwch cyn prynu
gofynnwch am fwy o amser os nad ydych yn siŵr
byddwch yn wyliadwrus o werthwyr wrth y drws sy’n dweud ei bod yn delio gydag arian yn unig neu sy’n fodlon bargeinio am daliad o arian
talwch gyda cherdyn credyd am nwyddau neu wasanaethau sy’n costio mwy na £100. Bydd y cwmni cerdyn credyd yn cynnig mwy o ddiogelwch i chi
cofiwch gael derbynneb efo enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt y cwmni
os yw’r gwerthwr wrth y drws yn gwrthod gadael, ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Stephen Churchman, sy’n arwain ar faterion safonau masnach ar Gyngor Gwynedd: “Mae gan ddefnyddwyr hawliau cyfreithiol wrth brynu nwyddau yn y cartref neu o unrhyw le arall. Mae’r gyfraith yn nodi, pan mae nwyddau neu wasanaethau yn costio dros £35, fod gan ddefnyddwyr hawl i saith niwrnod o amser i feddwl, ac yn yr amser hynny'r hawl i ddiddymu’r cytundeb.

 

“Cofiwch, mae’n rhaid i werthwyr ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i brynwyr arfaethedig o’i hawliau, ynghyd â ffurflen diddymiad. Os nad yw masnachwyr yn cydymffurfio gyda’r gofynion hyn, nid yw’r cytundeb gyda’r prynwr yn rhwym o ran cyfraith. Ac yn fwy na hynny, mae’r gwerthwyr hyn yn cyflawni trosedd.”

 

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd yng Ngwynedd sydd angen cyngor neu wybodaeth bellach gysylltu ag Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ar (01286) 682728 neu e-bostio safmas@gwynedd.gov.uk

 

Rhannu |