Mwy o Newyddion
Llywodraeth Cymru’n parhau i roi cefnogaeth i Luoedd Arfog Cymru
Mae Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant wedi pwysleisio unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Roedd y Gweinidog yn siarad mewn cynhadledd a ysgogwyd gan Lywodraeth Cymru ac a drefnwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chefnogaeth gref oddi wrth gymuned y Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y gwasanaethau a’r cymorth y mae gan aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’u teuluoedd yr hawl iddynt, nod y gynhadledd yw codi ymwybyddiaeth o Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Bwriad y Cyfamod Cymunedol, ar lefel leol, yw ategu Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal yn ogystal â hyrwyddo dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog.
Amcangyfrifir fod dros 5,000 o aelodau teuluoedd y lluoedd arfog, dros 200,000 o gyn-filwyr, a 2,100 o filwyr wrth gefn yng Nghymru, a dywedodd y Gweinidog ei fod am sicrhau bod aelodau’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd yn cael mynediad i wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion penodol ac nad ydynt o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth i’w gwlad.
Tynnodd y Gweinidog sylw at Becyn Cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae’n cynnwys ystod o ymrwymiadau ar faterion sydd wedi’u datganoli, fel gofal iechyd, tai, addysg a gofal plant.
Dyma’r mesurau sydd eisoes ar y gweill yn y Pecyn Cymorth hwn:
Eiriolwr Lluoedd Arfog i gynrychioli Cymru o fewn y rhwydwaith o eiriolwyr Lluoedd Arfog mewn adrannau llywodraeth ac yn y gweinyddiaethau datganoledig
Grŵp arbenigol yn cynnal cyfarfodydd chwe-misol i drafod anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Datblygiadau ym maes gwasanaethau iechyd meddwl Cyn-filwyr a gofal iechyd arall, gan gynnwys buddsoddiad o £485,000 i roi cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr drwy’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer Cyn-filwyr
Datblygiadau mewn addysg sy’n cynnwys newidiadau i bolisi gweinyddiaeth ysgolion i roi cefnogaeth well i deuluoedd y Lluoedd Arfog sy’n cael eu lleoli yng Nghymru,
Ymestyn y cynllun Cymorth Prynu i gynnwys gŵyr a gwragedd gweddw'r milwyr sy’n cael eu lladd, gwelliannau i’r broses prawf modd ar gyfer Grant Cyfleusterau’r Anabl, ac ymrwymiad i atal digartrefedd ymysg Cyn-filwyr yn y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd.
Dywedodd Carl Sargeant: “Byddai’n fethiant ar ein rhan ni i beidio ag ystyried anghenion nifer mor sylweddol yn ein cymunedau – tua chwarter miliwn o bobl.
“Mae gan lywodraethau lleol a chenedlaethol rôl i’w chwarae i sicrhau y gall y sector cyhoeddus cyfan, gan gynnwys sectorau iechyd, addysg a thai, gydweithio â’r lluoedd arfog a’r sefydliadau sy’n cynrychioli cymuned y lluoedd arfog.
“Rwyf am sicrhau bod cymuned y lluoedd arfog yn ymwybodol o’u hawliau, ac y gallant roi gwybod inni pan fydd angen newid pethau.”
Dywedodd y Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC): “Mae CLlLC yn falch o gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth gynnal y gynhadledd hon heddiw.
“Mae Llywodraeth leol yn sylweddoli bod aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn aberthu llawer a’i bod yn bwysig darparu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu eu hanghenion, mewn ffyrdd hyblyg sy’n ystyried natur unigryw eu swyddi.
“Rydym yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y DU ac ar lefel genedlaethol i sicrhau nad yw Cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais o ran y ddarpariaeth o wasanaethau. Rydym hefyd yn cydnabod y camau y gall awdurdodau lleol eu cymryd, a’r rhai sy’n cael eu cymryd ganddynt i wella’r sefyllfa bresennol, er enghraifft mwy o gyfeirio at gymorth ac at asiantaethau gwybodaeth. Mae Llywodraeth leol wedi ymrwymo i wella bywydau milwyr, cyn-filwyr a’u teuluoedd a bydd CLlLC yn cefnogi’r holl awdurdodau lleol i gyflawni’r gwelliannau hyn.”