Mwy o Newyddion
Elis-Thomas yn galw am ran fwy ac amlycach i Gynaliadwyedd yng Nghymru
Mewn ymateb i ddatganiad Gweinidog yr Amgylchedd ar Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Llefarydd Plaid Cymru ar Ynni a'r Amgylchedd y dylai datblygu cynaliadwy fod â rhan fwy ac amlycach ym mholisïau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru.
Mae Datblygu Cynaliadwy yn llwyfan allweddol gan Dafydd Elis-Thomas yn ei ymgyrch i ddod yn Arweinydd Plaid Cymru, ac mae'n awyddus i weld gweithredu amlycach i sicrhau y caiff datblygu cynaliadwy ei roi yng nghanol gwleidyddiaeth y 21ain ganrif, er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd effeithlon.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, AC Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd: “Mae 'Cynnal Cymru Fyw', papur gwyrdd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf ynghyd â datganiad ddoe gan John Griffith AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, mewn ymateb i adroddiad blynyddol cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn cyflwyno her sylweddol i lefelau llywodraethiant sy'n effeithio ar Gymru. I Lywodraeth Cymru mae'n rhaid i hynny fod yn weithrediad cynllun gwaith y dyfodol y Comisiwn o sefydlu datblygu cynaliadwy fel ‘llais dilys ar draws y Llywodraeth, gan bwysleisio ymgysylltiad gyda Gweinidogion ac adrannau tu hwnt i'r Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.'
“Fel llefarydd Plaid Cymru ar Ynni a'r Amgylchedd, a Chadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad, ystyriaf mai fy rôl yw bod yn gyfaill beirniadol i'n tri Gweinidog Ynni yn Llywodraeth Cymru, gan eu hannog i fod yn gynyddol hyderus wrth ddilyn llwybr carbon isel y mae Cymru a'n byd gymaint o'i angen. Wedi'r cyfan, cafodd y llwybr hwn ei osod yn gadarn iawn yn 'Un Gymru Un Blaned' gan y Llywodraeth y bu gan Weinidogion Plaid Cymru ran mor llawn a gweithgar ynddi.
Amlinellodd Elis-Thomas ei obaith i weld 2012 fel 'Blwyddyn Ynni' i Gymru: "Caiff penderfyniadau allweddol eu gwneud i 2012 ar brosiectau carbon isel yn cynnwys y math o adweithyddion y bydd Horizon yn eu comisiynu ar gyfer Wylfa a chynnydd hollbwysig ar brosiect arddangos ynni môr RWE Renewables yn Swnt Dewi ger Tyddewi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
“Ar ddosbarthu, mae National Grid yn cynnal ymchwil allweddol ac ymgynghoriad ar drawsyrru uwch ben y ddaear ac ar wely'r môr. Bydd angen i ni ymateb yn onest i'r farn a fynegwyd mor gryf gan bobl Powys a mannau eraill am effeithiau tyrbinau a thrawsyrru heb unrhyw fudd amlwg i'r gymuned. Mae'n rhaid cyflawni hyn i gyd heb fethu cyflawni ein hoblygiadau cyfreithiol a thargedau cenedlaethol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, na all unrhyw fod dynol rhesymol wadu ei sail gwyddonol erbyn hyn.
"Gobeithiaf hefyd gael canlyniad cynnar gan National Grid ar y cysylltiad dan ddŵr gogledd-de ar yr arfordir gorllewinol sy'n cael ei ystyried rhwng Wylfa a Phenfro.
“Mae arbed ynni yn flaenoriaeth ar gyfer ymladd yn erbyn tlodi tanwydd yn ogystal â newid hinsawdd. Edrychaf ymlaen at ymateb John Griffiths, Gweinidog yr Amgyhlchedd, i'r cynnig blaengar ar gyfer creu swyddi gwyrdd drwy hyfforddiant a wnaed gan Dr Calvin Jones, yr economegydd ynni uchel ei barch ym Mhrifysgol Caerdydd a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ein dadl cyn y Nadolig
“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Arglwydd Deben, y bum yn cydweithio ag ef am gyfnod hir yn San Steffan, i weld pa gefnogaeth ymarferol a gwleidyddol y gallaf ei gynnig iddoi fel cadeirydd grŵp Corlan Hafren sy'n hyrwyddo cynnig a ariennir gan y farchnad ar gyfer Morglawdd i'r Hafren. Gallai'r prosiect hwn, gyda'i botensial enfawr o gynhyrchu ynni digarbon, cyn belled ag y cyflawnir meini prawf amgylcheddol llwm, gael effaith debyg ar economi de Cymru yn y 21ain ganrif i'r hyn gafodd y diwydiant ynni carbon trwm ar ddechrau'r 20fed ganrif.
"Yn nes adref, roeddwn wrth fy modd gyda phenderfyniad y Gweinidog Busnes Edwina Hart i enwi Safle Dadgomisiynu Niwclear Trawsfynydd fel parth Ynni, Amgylchedd a TGCh arbenigol yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Oherwydd y nifer fawr o beirianwyr medrus iawn a fu'n gweithio yn y safle cyhyd, roedd angen gweithredu ar frys i osgoi argyfwng economaidd difrifol mewn ardaloedd lle mae cyfleoedd swyddi yn brin. Gyda'r orsaf bŵer trydan dŵr ym Maentwrog a chysylltiadau grid lefel uchel a'r diogelwch uchaf ar y safle, mae'n barth delfrydol ar gyfer ystod o ddatblygiadau posibl y gallwn yn awr weithredu'n egnïol arnynt.
"Mae'n rhaid i ni'n awr fanteisio ar y cyfleoedd am economi werdd yma yng Nghymru, buddsoddi mewn swyddi gwyrdd ac felly helpu adferiad economaidd cynaliadwy. Mae creu Parch Menter Ynni yn Nhrawsfynydd, ar safle sydd â chymaint o botensial i ddatblygu a chreu ynni adnewyddadwy, yn enghraifft berffaith o sut y gall Llywodraeth a busnesau gydweithio a chreu twf cynaliadwy."