Mwy o Newyddion
Digartrefedd a gwella’r sector rhentu preifat i’w cynnwys yn y Bil Tai
Neithiwr [nos Iau, 9 Chwefror] fe wnaeth y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, gyfarfod rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar ddigartrefedd wrth iddo fwrw ymlaen â’i gynlluniau i lunio polisïau i fynd i’r afael â’r broblem yng Nghymru.
Gydag ef yn y seminar ym Mhrifysgol Caerdydd oedd yr Athro Dennis Culhane, sydd wedi cynghori Llywodraeth yr Unol Daleithiau ynghylch digartrefedd, a hefyd yr Athro Suzanne Fitzpatrick sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban ar yr un pwnc.
Gallai eu syniadau a’u polisïau helpu i lywio’r cynigion a gaiff eu cyflwyno i ddelio â digartrefedd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai i’w gyhoeddi eleni.
Dywedodd Huw Lewis:
“Mae helpu pobl agored i niwed a rhoi cymorth i’r bobl hynny nad oes modd i’w hanghenion o ran tai gael eu diwallu gan y farchnad yn arbennig o bwysig i mi,” dywedodd.
“Mae’r her sydd o’n blaen am y blynyddoedd nesa i ddod yn anferth – a bydd ar raddfa nad ydyn ni wedi’i gweld o’r blaen. Er hynny, dyw hynny ddim yn tanseilio fy mhenderfyniad i wneud popeth o fewn fy ngallu i’r bobl hynny mae angen ein help ni arnyn nhw. Os rhywbeth, mae’n fy ngwneud i’n fwy penderfynol.”
Dywedodd Mr Lewis wrth y gynulleidfa fod Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar nifer o egwyddorion sef atal, gweithio’n well mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion pobl, tegwch o ran y gwasanaethau sydd ar gael i bawb a sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni, gan gynnwys y sector preifat.
I gefnogi’r cynllun hwn, esboniodd Mr Lewis y byddai’n cyhoeddi cynigion ar gyfer deddfwriaeth a chamau pellach mewn perthynas â thai yn y Papur Gwyn Tai yn seiliedig ar waith ymchwil a gwerthuso newydd.
“Bydd digartrefedd a gwella’r sector rhentu preifat yn rhan o’r Bil Tai yn ogystal â phynciau eraill sy’n cael eu hystyried hefyd,” meddai.
“Mae’r Bil yn gyfle heb ei ail a fy mwriad yw manteisio ar y cyfle hwnnw i’r eithaf. Ond nid deddfwriaeth mo’r unig ateb o bell ffordd felly bydd fy Mhapur Gwyn yn cynnwys camau eraill i’w cymryd hefyd i fynd i’r afael â phroblemau penodol.
“Y llynedd, comisiynais adolygiad sylfaenol o ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd er mwyn ein helpu ni i weld pa newidiadau roedd angen eu cynnwys yn y Bil Tai.
“Mae rhai negeseuon amlwg yn dod i’r amlwg eisoes. Er enghraifft, mae atal digartrefedd yn hollbwysig ond nid yw’r ddeddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn cynnig cymorth effeithiol i’n galluogi ni i gymryd camau i’w atal. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector i gryfhau eu gallu i helpu pobl i osgoi bod yn ddigartref.”
Dywedodd Mr Lewis y byddai Llywodraeth Cymru yn gwrando’n ofalus ar farn pob sector cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth
“Fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud popeth allwn ni. Rydyn ni eisoes yn rhoi cymorth tuag at gymryd camau i helpu pobl i reoli’r newidiadau i’r Budd-dâl Tai. Rydym yn rhoi £1.4 miliwn i awdurdodau lleol a Shelter Cymru i liniaru effaith y toriadau hyn,” meddai.
“Mae angen i ni hefyd ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynyddu’r cyflenwad tai. Fy mwriad yw chwilio am ffyrdd cyflymach o lawer o ddefnyddio tir sy’n eiddo i’r cyhoedd ar gyfer tai fforddiadwy. Rwyf hefyd am weld datblygu modelau newydd gan gynnwys, yn bwysig iawn, fentrau cydweithredol.
“Ein nod fel Llywodraeth – ac rwy’n benderfynol o weld hyn yn cael ei gyflawni fel Gweinidog – yw gwarchod a chefnogi pobl gymaint â phosib er mwyn eu helpu drwy’r cyfnod anodd hwn ac osgoi mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf ”