Mwy o Newyddion
Gwaith gwella gwerth miliwn o bunnau ar gyfer canol y ddinas yn datblygu'n dda
Mae gwaith gweddnewid gwerth miliwn o bunnau i un o ardaloedd siopa mwyaf nodweddiadol y ddinas yn symud ymlaen yn dda ac mae disgwyl y caiff ei gwblhau'n gynt na'r disgwyl.
Cyngor Abertawe sy'n arwain gwaith gwella Stryd Rhydychen Isaf â'r nod o fanteisio i'r eithaf ar yr amgylchedd siopa a geir o gymysgedd da o fasnachwyr annibynnol unigryw.
Ac, o 20 Chwefror, bydd ail gam y gwaith yn dechrau, wythnos yn gynt na'r disgwyl ar ôl cynnydd da yn Stryd Rhydychen rhwng Stryd Plymouth a Stryd Dillwyn.
Mae busnesau'n cael eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf am y gwaith gyda llythyr yn eu gwahodd i sesiwn galw heibio arbennig yn Swyddfa Rheoli Canol y Ddinas ar 14 Chwefror, lle gall busnesau roi manylion am anghenion arbennig ar gyfer dosbarthu nwyddau pan fydd Stryd Singleton ar gau a dargyfeiriadau ar waith.
Hefyd, gall busnesau e-bostio'r prosiect, craiddcanoldinas@abertawe.gov.uk.
Nod cau Stryd Singleton dros dro am ryw dair wythnos gyda dargyfeiriadau ar waith yw lleihau'r aflonyddwch ar fusnesau a siopwyr fel ei gilydd.
Bydd pob llwybr a busnes yn aros ar agor fel arfer.
Disgwylir ailagor Stryd Rhydychen rhwng Stryd Dillwyn a Stryd Plymouth erbyn 14 Chwefror, mewn da bryd ar gyfer hanner tymor.
Meddai Chris Holley, Arweinydd y Cyngor, "Mae adroddiad diweddar SkillSmart wedi nodi mor lân, cyfeillgar a chroesawgar yw canol y ddinas oherwydd y gwaith hwn.
"Mae hynny'n deyrnged i ymdrechion manwerthwyr, masnachwyr annibynnol a'r cyngor ac mae'n dangos y gallwn, trwy weithio gyda'n gilydd, wneud canol y ddinas yn lleoliad lle bydd siopwyr eisiau dychwelyd iddo dro ar ôl tro.
Dywedodd y Cyng. Holley fod manwerthwyr yn yr ardal wedi elwa ar y gwaith gwella ar ran uchaf Stryd Rhydychen ac y byddai masnachwyr yn y pen isaf yn cael y cyfle i elwa yn yr un ffordd pan fydd y gwaith gwella wedi'i gwblhau.
Ychwanegodd, "Mae Stryd Rhydychen Isaf yn enwog am unigolrwydd ei masnachwyr ac amlygodd adroddiad SkillSmart sut mae masnachwyr annibynnol yn ychwanegu at fywiogrwydd canol trefi a dinasoedd.
"Pan fydd y gwaith gweddnewid £1m wedi'i gwblhau, bydd ond yn helpu i ddenu mwy o gwsmeriaid i'r siopau yno."
Mae gwaith gwella ardal fanwerthu Stryd Rhydychen Isaf yn un o sawl prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru (trwy ei rhaglen Ardal Adfywio), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Abertawe i wella profiad canol dinas Abertawe i breswylwyr a busnesau'r ddinas ac ymwelwyr.
Mae'r manylion llawn am y prosiect a Stryd Rhydychen ar gael yn www.canolyddinasabertawe.com a bydd arddangosfa yn Swyddfa Rheoli Canol y Ddinas yn Stryd Plymouth, yn ogystal â safleoedd poster ar Stryd yr Undeb, Stryd Rhydychen a Stryd Singelton.
Mae rhagor o fanylion am holl brosiectau adfywio canol y ddinas a'r diweddaraf am y prosiectau, i'w gweld yn http://www.canolyddinasabertawe.com