Mwy o Newyddion
Manteisiwch ar fesuryddion ynni Llyfrgelloedd Gwynedd
Wrth i bobl wylio’r geiniog a biliau ynni yn codi, mae defnyddio llai o ynni yn y cartref yn dod yn fwyfwy pwysig. Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o arbed hyd at £125 y flwyddyn a gwneud lles i’r amgylchedd ar yr un pryd, mae gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yr union beth ar eich cyfer.
Mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cydweithio gyda Phartneriaeth Amgylcheddol Gwynedd i gynnig gwasanaeth menthyg mesurydd ynni OWL. Mae’r gwasanaeth am ddim ac ar gael ym mhob un o lyfrgelloedd Cyngor Gwynedd.
Gwaith y teclynnau OWL yw mesur llif trydan i’r cartref pan mae offer trydanol yn cael ei droi ymlaen. Mae’r data’n cael ei ddangos ar y monitor yn nhermau cost, y CO2 a gynhyrchir, a’r trydan a ddefnyddir. Pwrpas y teclyn yw adnabod pa offer sy’n defnyddio’r mwyaf o drydan, a gall ddangos pa offer sydd ymlaen hyd yn oed pan mae'n ymddangos eu bod i ffwrdd.
Ers lansio’r cynllun nôl ym mis Mehefin 2010 mae wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn gyda defnyddwyr llyfrgell yn datgan fod y cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd maent yn defnyddio trydan yn y cartref.
Dywedodd Mrs Megan Evans o Gaernarfon, a fenthycodd un o’r mesuryddion o’i llyfrgell: “Mi wnaeth y mesuryddion i ni wylio faint o drydan oedd yn cael ei ddefnyddio, ac mi wnaethon ni sylwi bod y goleuadau oedd gennym yn y gegin yn llyncu llawer mwy o drydan na’r bylbiau eraill. Mi wnaethom ni arbed arian drwy beidio defnyddio’r golau mor aml. Wrth gwrs mae yna rai pethau na allwn ni dorri lawr arnyn nhw, ond roedd yn dda gallu gweld ble roedd y defnydd mwyaf trwm o drydan yn y tŷ. Ers benthyg y mesurydd o’r llyfrgell, rydan ni rŵan wedi ffitio un yn y tŷ yn barhaol.”
Mae ystadegau’n dangos, trwy fonitro’r defnydd o drydan gyda’r mesuryddion, mae’n bosib gwneud arbediad o tua £125 y flwyddyn, ac arbed tri chwarter tunnell o CO2.
Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd: “Trwy gymryd nifer o gamau syml i arbed ynni yn y cartref gall pawb wneud arbedion mawr i’w biliau trydan. Mae enghreifftiau o’r camau hyn yn cynnwys newid eich bylbiau golau i rai ynni effeithiol sy’n defnyddio 25% yn llai o ynni, gosod tymheredd golchi'r peiriant golchi dillad ar 30 gradd selsiws, a sychu eich dillad ar y lein yn hytrach na mewn peiriant sychu dillad. Gall un llwyth dillad gostio rhwng 30c a 70c i’w sychu mewn peiriant.
“Byddwn yn annog holl drigolion Gwynedd i wneud y mwyaf o’r mesuryddion hyn sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd ar draws y sir.”
Ychwanegodd Huw Davies, Cadeirydd Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd: “Mae’r prosiect yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth trigolion Gwynedd o bwysigrwydd arbed ynni. Gall y mesuryddion ddod a lleihad sylweddol mewn faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio o ddydd i ddydd yn y cartref a faint o garbon sy’n cael ei ryddhau. Mae allyriad carbon yn gallu cyfrannu at gynhesu byd eang - rhywbeth sy’n poeni nifer fawr o bobl ar hyn o bryd. Mae’n hanfodol bod trigolion Gwynedd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yr arbedion hyn.’’
Am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor Gwynedd: 01286 679465 neu e-bost: NiaGruffydd@gwynedd.gov.uk