Mwy o Newyddion
£4m i sicrhau y gall y Trydydd Sector chwarae eu rhan mewn prosiect allweddol
Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, ddydd Mawrth y bydd prosiect gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn cael £4m ychwanegol i ehangu i gynnwys y trydydd sector.
Bydd yr arian Ewropeaidd ychwanegol hwn yn helpu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol lleol i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y trydydd sector a Byrddau Gwasanaethau Lleol, Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hynny yn y Gorllewin ac yn y Cymoedd. Y nod yw cyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd cyfanswm o £17 miliwn ar gael trwy’r prosiect hwn, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a thros £10 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Rhoddwyd arian eisoes i brosiectau sy’n sicrhau bod pobl leol yn cael cyfrannu at y gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys mentrau sy’n defnyddio dulliau effeithiol o gydweithio i wella gwasanaethau i deuluoedd, mynd i’r afael ag allyriadau carbon, a lleihau tlodi.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant: “Dw i’n croesawu’r ffaith bod y prosiect hwn wedi cael hwb ariannol. Bydd yn ei gwneud yn haws i’r trydydd sector gydweithio â ni i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion pobl Cymru, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu.
“Mae 22 o brosiectau eisoes ar waith gyda chymorth pobl Cymru ac er eu budd, a thrwy gryfhau a ffocysu cyfraniad y trydydd sector, dw i’n siŵr y gallwn ni gael hyd yn oed fwy o lwyddiant.”
Dywedodd Graham Benfield, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: “Mae gan y trydydd sector ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n agos at bobl a chymunedau. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn golygu y gall mwy o fudiadau gyfrannu at waith y Byrddau Gwasanaethau Lleol, gan weithio mewn partneriaeth â nhw i wella gwasanaethau cyhoeddus.”