Mwy o Newyddion
Ymgynghoriad cymorth Treth Cyngor
Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer darparu cymorth i bobl sydd angen help i dalu eu bil Treth Gyngor.
Daw hyn yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu diddymu budd-dal y dreth gyngor a lleoleiddio cymorth gyda’r dreth gyngor. O Ebrill 2013 ymlaen, bydd darparu cymorth gyda’r dreth gyngor yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru a bydd yr arian ar gyfer hynny’n cael ei gwtogi 10 y cant.
Mae budd-dal y dreth gyngor yn gymorth hanfodol i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gydag oddeutu chwarter cartrefi Cymru’n derbyn cymorth ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r newidiadau a’r amser byr cyn iddynt ddod i rym.
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: “Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor a lleoleiddio cymorth gyda’r dreth gyngor.
“Nid yw’r amserlen ar gyfer rhoi’r newidiadau arwyddocaol hyn ar waith yn gadael digon o amser i ni ddatblygu cynllun ar gyfer darparu cymorth hanfodol i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Hefyd, mae bwriad Llywodraeth y DU i gwtogi ar yr arian fydd ar gael ar gyfer darparu cymorth gyda budd-dal y dreth gyngor yn gosod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol sydd eisoes yn brin o adnoddau a gallai arwain at beri anfantais ddifrifol i rai hawlwyr.
“Mae hyn yn digwydd ar adeg pan fo’r hinsawdd ariannol a rhagolygon economaidd heriol tu hwnt yn parhau i greu mwy o angen am gymorth, ac ochr yn ochr â goblygiadau agenda ehangach Llywodraeth y DU i ddiwygio lles nad yw eu heffaith yn debygol o gael ei deall yn llawn hyd nes y daw’r Credyd Cynhwysol i rym.
“Er gwaethaf yr amheuon hyn, mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn glir y bydd y cyfrifoldeb dros ddarparu cymorth gyda’r dreth gyngor yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru’n fuan. Gan hynny, mae’n ddyletswydd foesol arnom i wneud paratoadau ac i sicrhau na fydd rhai o’n pobl mwyaf agored i niwed yn dioddef caledi ariannol difrifol.
“Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif ac mae’r ymgynghoriad hwn yn gam mawr yn y gwaith o ddatblygu trefniadau newydd a sicrhau eu bod ar waith erbyn y flwyddyn nesaf.
“Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun newydd a byddwn yn gweithio’n glòs i wneud y defnydd gorau o’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd ar gael yng Nghymru o ran darparu cymorth gyda’r dreth gyngor.”