Mwy o Newyddion
Ymgyrch i gyflogi mwy o brentisiaid
Mae cyflogwyr ledled Cymru yn cael eu hannog yr wythnos hon i gyflogi a hyfforddi prentisiaid ifanc er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd, er mwyn cael y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar eu busnesau i oroesi a thyfu yn y dyfodol.
A hithau’n Wythnos Prentisiaethau yng Nghymru, galwodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, ynghyd â darparwyr hyfforddi’r wlad, ar i ragor o fusnesau wneud yr ymrwymiad i drosglwyddo’r sgiliau sydd gan y genhedlaeth yma o weithwyr i’r genhedlaeth nesaf.
Yn ystod y flwyddyn adrodd ddiweddaraf, roedd 16,305 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi fel prentisiaid ac roedd 20,075 pellach wedi’u cofrestru’n Brentisiaid Sylfaenol. Fodd bynnag, mae yna bryderon nad oes digon o gyfleoedd yn cael eu cynnig gan gwmnïau i brentisiaid o ystyried nifer y bobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd i roi cychwyn ar eu gyrfa.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog ei ddatganiad cyn ei ymweliad heddiw ag Academi Sgiliau ACT yng Nghaerdydd, un o’r canolfannau mwyaf yng Nghymru sy’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau seiliedig ar waith. Yn ystod ei ymweliad bydd yn cwrdd â chyflogwyr a phrentisiaid fel ei gilydd ynghyd â rhai eraill sy’n derbyn hyfforddiant ac sydd wrthi’n chwilio am brentisiaethau mewn amryw o wahanol o feysydd.
Dywedodd: “Yn ôl gwaith ymchwil sydd wedi’i wneud mae prentisiaethau yn dda i fusnesau. Mae cyflogwyr sy’n defnyddio’r math yma o hyfforddiant yn dweud ei fod yn arwain at greu gweithlu sy’n fwy brwd ac yn gwella cynhyrchiant. Mae prentisiaethau yn cael eu cynllunio’n benodol gan yr amryw wahanol sectorau fel y bônt yn addas at anghenion penodol busnesau yn y sectorau hynny.
“Mae prentisiaethau yn gyfle i gyflogwyr, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, droi pobl ifanc heb unrhyw sgiliau yn berfformwyr o’r radd uchaf a fydd yn gaffaeliad i’w cwmnïau ac i economi Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.
“Byddwn ni’n parhau i gefnogi cyflogwyr sy’n chwilio am brentisiaid gan mai dyma un o’r ffyrdd pwysicaf rydym yn eu defnyddio i greu gweithlu sydd â’r sgiliau mae eu hangen i economi Cymru dyfu. Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn gyfle gwych i gyflogwyr ddechrau meddwl am ddenu prentisiaid.”
Daw ei sylwadau ar ddechrau wythnos o ddigwyddiadau ym mhob cwr o Gymru. Diben y gweithgareddau hyn yw codi proffil prentisiaethau ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith trefnwyd brecwastau busnes, sioeau teithiol, diwrnodau agored mewn canolfannau hyfforddi, arddangosfeydd ym maes adeiladwaith a chynadleddau.
Ar ôl cyfnod o ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 200 o lwybrau gwahanol ar gael bellach ar gyfer hyfforddiant ar ffurf prentisiaethau sy’n cynnig cyfanswm o bron i 1,200 o swyddi penodol ar gyfer pobl ifanc.
Yng Nghymru, mae hyfforddiant ar ffurf prentisiaethau yn arbennig o boblogaidd mewn sectorau megis lletygarwch, peirianneg ac adeiladwaith a hefyd mewn mathau o swyddi sy’n cynnwys gweinyddiaeth busnes, rheoli, cynorthwywyr dosbarth, gwasanaethau i gwsmeriaid a Thechnoleg Gwybodaeth.
Yn ôl ymchwil a wnaed ar draws y Deyrnas Unedig gan Populus ymhlith cyflogwyr oedd wedi hyfforddi prentisiaid, roedd 77% yn credu bod dilyn y trywydd hwn wedi arwain at wneud eu cwmnïau yn fwy cystadleuol. Dywedodd 76% hefyd ei fod wedi arwain at wella cynhyrchiant yn gyffredinol. Dywedodd 88% ohonynt fod prentisiaethau wedi codi brwdfrydedd ymhlith eu gweithwyr a dywedodd 57% fod cyfran uchel o’r prentisiaid wedi symud yn eu blaen i swyddi rheoli o fewn eu busnesau.
Yn ôl Gwybodaeth am y Farchnad Lafur gan Lywodraeth Cymru, mae’r bobl hynny sy’n cwblhau hyfforddiant gan ddilyn prentisiaeth ar Lefel 3 yn debygol o ennill hyd at £117,000 yn fwy ar hyd eu gyrfa o’u cymharu â’r rheini na chawsant hyfforddiant o’r fath.
Ategwyd datganiad y Dirprwy Weinidog yn galw ar gyflogwyr i ymateb gan Reolwr Gyfarwyddwr ACT, Andrew Cooksley, sydd hefyd yn llefarydd ar gyflogadwyedd ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd: “Mae gan ddarparwyr dysgu yng Nghymru filoedd o bobl ifanc dalentog ar eu llyfrau a fyddai’n gaffaeliad i gyflogwyr. Byddai ymrwymo i’w recriwtio fel prentisiaid yn gam positif ymlaen i’w busnesau.”
Tynnodd sylw hefyd at y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau gan ddweud bod gan gyflogwyr bellach ddull hwylus ar-lein i ddod o hyd i’r union berson i lenwi prentisiaethau. Mae hwn yn wasanaeth ar-lein di-dâl y gall cyflogwyr ei ddefnyddio i nodi eu gofynion. Ar ôl gwneud hynny gall Gyrfa Cymru eu helpu i ddod o hyd i’r person cywir o’u cronfa ddata o bobl ifanc ar sail eu CVs, eu priodoleddau a’u dyheadau o ran eu dyfodol.
Gall cyflogwyr a busnesau gael gwybodaeth am y cymorth sydd are gael gan Llywodraeth Cymru am brentisiaid a hyfforddi staff gan alw 0845 60 661 60. Ni does tal am y galwad yma.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Eoghan Mortell/Caroline Holmes 029 2064 684
Llun: Jeff Cuthbert