Mwy o Newyddion
Cynlluniau ar gyfer llwybrau beicio
Mae cynlluniau i greu rhwydwaith o lwybrau beicio oddi-ar-y-ffordd ledled y De wedi cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wedi cyhoeddi £208,624 arall ar gyfer prosiect Canolfan Ragoriaeth Beicio Oddi-Ar-y-Ffordd i ddatblygu cyfleusterau beicio ledled Cwm Afan. Mae’r cyllid diweddaraf hwn o raglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin yn ychwanegol at grant blaenorol gan Lywodraeth Cymru o £221,124 ar gyfer y prosiect hwn, a bydd yn ein helpu i gael £2 miliwn o gyllid Ewropeaidd.
Bydd y cynllun ehangach yn helpu i ddatblygu cyfres o lwybrau sy’n cysylltu canolfannau beicio ledled y De. Yn ogystal â chyfleusterau Cwm Afan, caiff cysylltiadau eu creu â safleoedd yng Nghoedwig Gethin, Cwmcarn yng Nghasnewydd a Pharc Margam. Y rhwydwaith hwn fydd un o’r gorau yn y DU a gallai hefyd annog pobl i gerdded a chyfeiriannu.
Dywedodd Huw Lewis: “Mae hyrwyddo twristiaeth yng Nghymoedd y Gorllewin yn elfen allweddol o raglen yr Ardal Adfywio. Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o annog pobl i ymweld â’r ardal a chefnogi’r economi leol drwy greu mwy o fasnach ac aros mewn llety dros nos.
“Mae’r llwybrau yn mynd drwy ardaloedd godidog ac yn ffordd o fwynhau bod y tu allan a chael ymarfer corff ar yr un pryd.”
Daw’r cyhoeddiad wythnosau ar ôl i Huw Lewis gyhoeddi £330,418 i brosiectau amgylcheddol o dan raglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin.
Yn 2009 y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Cymoedd y Gorllewin yn Ardal Adfywio Strategol. Ers hynny mae 230 o brosiectau wedi’u cymeradwyo a £17.2 miliwn o gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer y prosiectau hyn, gan ddatblygu trefi yng Nghymoedd y Gorllewin a chefnogi economïau lleol.