Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn cael cefnogaeth un o’r prif enwau ym mudiad yr undebau llafur
Mae Leanne Wood, Plaid Cymru, wedi cael cefnogaeth un o’r prif enwau ym mudiad yr undebau llafur.
Cyhoeddodd Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ei fod yn cefnogi gwaith Ms Wood, gan ddweud ei bod hi’n "un o’r gwleidyddion amlycaf yng Nghymru."Bu’r AC dros Ganol De Cymru yn danbaid ei hamddiffyniad o hawliau gweithwyr a bu’n gyson ei chefnogaeth i’r llinell biced a ralïau’r undebau dros y blynyddoedd wrth amddiffyn cyflogau ac amodau gweithwyr y sector cyhoeddus. Leanne hefyd yw cadeirydd presennol y Grŵp PCS trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol.??
Meddai Mr Serwotka, sy’n hanu o Aberdâr: "Bu Leanne yn gyfaill cyson i PCS ac yn ymgyrchydd brwd dros fuddiannau ein haelodau."Pan aethom ati i sefydlu grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol yn 2005, etholwyd Leanne yn gadeirydd, ac mae’n parhau i gyflawni’r swyddogaeth honno heddiw."Bu’n mynd i’r afael â’n pryderon yn egnïol bob gafael – gan bwyso ar weinidogion ac uwch reolwyr am sicrwydd ynghylch swyddi, cyflogau ac amodau. Pryd bynnag y byddem mewn anghydfod, byddai Leanne yn siarad dros gyfiawnder ein hachos. Byddai’n cydsefyll â ni ar y llinell biced ac mewn ralïau streicio.
"Mae PCS yn ddiolchgar am y gefnogaeth ddi-baid y mae Leanne wedi’i rhoi inni dros y blynyddoedd – nid oes un gwleidydd yng Nghymru wedi bod yn gyfaill mor ddibynadwy i’n haelodau.
Meddai hefyd: "Does dim amheuaeth gen i mai hi yw un o’r gwleidyddion amlycaf yng Nghymru ac rydym yn falch o’i chefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn."
Meddai Ms Wood: "Mae Mark yn rhywun rwy’n ei edmygu’n fawr iawn felly mae ei gefnogaeth yn golygu llawer i mi.? Bu’n ddraenen barhaus yn ystlys Llywodraethau olynol yn San Steffan pryd bynnag y byddent yn ceisio diddymu hawliau ei aelodau y bu’n rhaid ymladd yn galed i’w hennill.
"Nid oes arno ofn sefyll dros yr hyn sy’n iawn ac mae’n barod i ochri â gweithwyr y sector cyhoeddus yn wyneb ymosodiadau parhaus ac anghyfiawn Llywodraeth y Con/Demiaid.
"Tra bod pleidiau gwleidyddol eraill bellach yn celu rhag cefnogi hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus, credaf y gall Plaid Cymru arwain y ffordd wrth ddangos i weithwyr mai ni yw’r blaid a fydd yn cynrychioli eu buddiannau ac yn ymladd dros eu hawliau i dderbyn cyflog byw ac i ymddeol heb fod mewn tlodi.
"Credaf yn gadarn y bydd Cymru’n well ei byd fel gwlad annibynnol, ond tan i hynny ddigwydd, mae’n hollbwysig ein bod yn ymladd i gadw’r gwasanaethau a’r swyddi sydd gennym.? Dim ond arweinyddiaeth wleidyddol gref a diffuant o Gymru wrth sefyll yn erbyn San Steffan all wneud hynny.
"Dyma’r hyn y gall Plaid Cymru ei gynnig i etholwyr Cymru."