Mwy o Newyddion
Cyfle i helpu i lunio dyfodol yr iaith
Mae pobl sydd â diddordeb yn y Gymraeg yn cael eu gwahodd i wneud cais am rolau newydd sbon i helpu i lunio dyfodol yr iaith.
Yr wythnos nesaf bydd hysbysebion yn y wasg, sef y cam cyntaf yn y broses o benodi aelodau i ddau gorff gwahanol. Dau gorff ar wahân yw'r rhain a gaiff eu sefydlu o dan Fesur newydd y Gymraeg.
Un o'r cyrff hyn fydd Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Bydd yn rhoi cyngor diduedd ac annibynnol i Meri Huws, y Comisiynydd newydd, ynghylch materion sy'n ymwneud â'i chyfrifoldebau a'i phwerau. Mae'r cyfrifoldebau a'r pwerau hynny'n cynnwys gosod dyletswyddau ar sefydliadau drwy gyfrwng safonau'n ymwneud â'r Gymraeg, cynghori Gweinidogion Cymru ac eraill ar y polisi iaith, a chynnal ymchwiliadau i faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Bydd rhwng tri a phump o aelodau ar y Panel, a byddan nhw'n cael eu penodi am dair blynedd. Bydd y panel yn cael ei sefydlu cyn diwedd Ebrill 2012.
Yr ail gorff yw Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Bydd hwn yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch gweithredu'r Strategaeth Iaith ac ynghylch paratoi cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer y Strategaeth.
Hefyd, bydd disgwyl i aelodau'r Cyngor rannu arferion da mewn perthynas â nodau'r Strategaeth a hyrwyddo'r iaith yn y sectorau sy'n cael eu cynrychioli ganddyn nhw.
Yn ôl Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: "Gan fod y Gymraeg yn un o'm cyfrifoldebau i, dw i'n benderfynol o sicrhau bod Panel Cynghori o'r radd flaenaf yn gefn i Gomisiynydd y Gymraeg. Dw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn inni fedru bwrw ymlaen â'r strategaeth iaith mor effeithiol â phosib. Dw i'n awyddus iawn i ddenu ymgeiswyr o'r radd flaenaf i'r naill gorff a'r llall, a’r rheini’n ymgeiswyr a chanddyn nhw wybodaeth gadarn o'r Gymraeg."
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 2 Mawrth.
Llun: Leighton Andrews