Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Chwefror 2012

Sicrhau presenoleb yr Heddlu drwy leoli ar y stryd fawr?

Mae meddwl yn arloesol a chreadigol yn allweddol i sicrhau presenoldeb heddlu cymunedol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru, Gareth Thomas, sy'n cynrychioli’r trigolion lleol ar Gyngor Gwynedd.

Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas wedi gwneud argymhellion ymarferol i Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin, ar sut y dylai’r heddlu sicrhau presenoldeb cymunedol ym mhentref Penrhyndeudraeth, er bod cynlluniau ar y gweill i gau yr orsaf heddlu fechan yno.

Yn dilyn ymholiadau diweddar, byddai presenoldeb mewn swyddfa gyfreithiwr leol neu adeilad cymunedol di-elw ar y stryd fawr yn datrys problemau presenoldeb posibl ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru.

“Dw i wir yn credu bod angen i ni weithio gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn er mwyn sicrhau presenoleb amlwg gan yr heddlu yn ein cymunedau gwledig,” eglura Cynghorydd Plaid, Gareth Thomas.
“Rydyn ni’n lwcus yma yn Mhenrhydeudraeth bod digwyddiadau troseddol yn isel. Rydym yn awyddus i’w chadw hi felly. Yn anffodus, fel rhan o adolygiad ystad Heddlu Gogledd Cymru, mae Gorsaf Heddlu Penrhyndeudraeth wedi cael ei chlustnodi ar gyfer ei chau.
"Rydym eisoes wedi colli Swyddog yr Heddlu o'r ardal hon, ac mae’r ardal ddaearyddol y mae ein Rhingyll lleol yn gyfrifol amdani yn enfawr. Rydym yn benderfynol o gadw presenoldeb ein Swyddog Cymunedol Ategol sy'n gweithio'n ddiflino gydag arweinwyr cymunedol, trigolion lleol, pobl ifanc a'r henoed.

“Mae’n hanfodol bod ein gwasanaeth heddlu yn parhau i fod yn amlwg ym Mhenrhyndeudraeth gan y bydd symud swyddfa’r heddlu i Borthmadog yn dechrau'r broses o leihau presenoldeb ar ein strydoedd a lleihau’r berthynas waith agos sydd gan bob un ohonom gyda'r PCSO.

“Mae fy ymholiadau cychwynnol wedi awgrymu bod posibilrwydd llogi un o ddwy o ystafelloedd mewn adeiladau sy'n eiddo preifat, er mwyn sicrhau bod presenoldeb yr heddlu yn parhau ar y stryd fawr y pentref. Rwy'n annog Heddlu Gogledd Cymru, dan arweiniad y Prif Gwnstabl a Chadeirydd Awdurdod yr Heddlu, i ystyried yr opsiwn hwn i’r dyfodol er budd pobl Penrhyndeudraeth. Rydyn ni’n awyddus iawn i sicrhau bod yr ardal hon yn parhau i fod yn un diogel i fyw a gweithio ynddi,” meddai’r Cynghorydd Thomas.

Rhannu |