Mwy o Newyddion
Siân Gwenllian yn sefyll fel ymgeisydd Cyngor Gwynedd eto
Mewn cyfarfod o Gangen Plaid Cymru Y Felinheli yn ddiweddar cafodd Y Cynghorydd Siân Gwenllian ei dewis fel ymgeisydd swyddogol Plaid ar gyfer etholiadau lleol Cyngor Gwynedd sydd i'w cynnal ar Fai 3, 2012.
Mae Siân wedi cynrychioli'r pentref fel Cynghorydd Cyngor Gwynedd ers 2008 ac ers dwy flynedd hi yw Arweinydd Cyllid y Cyngor Sir.
Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones: “Dwi’n edrych ymlaen i barhau i gydweithio â Siân er lles pobl y Felinheli. Mae hi’n gwybod sut i gydweithio’n lleol er lles y pentref a sut i arwain yn ddoeth o fewn y Cyngor Sir. Bydd gwir angen pobl fel Siân yn y Cyngor ar adeg sy’n anodd yn economaidd. Pob lwc iddi yn yr Etholiadau lleol.”
Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams: “Mae Siân yn gynghorydd galluog iawn, yn uchel ei pharch yn lleol, ac mae ei hymrwymiad i’r Felinheli yn gryf ac amlwg. Fel eich Aelod Seneddol cefais fudd mawr o’i chyngor a’i gwybodaeth ar faterion lleol a chenedlaethol. Rwy’n hynod o falch o’i chymeradwyo atoch fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Y Felinheli.”
Yn ôl Cadeirydd Cangen Felinheli, Margaret Tuzuner: "Yn y bedair blynedd diwethaf mae Siân wedi gweithio ' n ddygn ar ran ein trigolion a’r gymuned. Llwyddodd i sicrhau arian tuag at bob math o brosiectau er budd y gymuned. Yn eu mysg gwella'r Neuadd Goffa, creu'r Felin Sgwrsio, ymgyrchoedd baw cŵn a chodi sbwriel, creu gwefan i'r pentref a gwella'r Lôn Las a Cherrig yr Afon."
Yn ôl Siân Gwenllian: "Mae hi wedi bod yn fraint cael cynrychioli'r ardal ers pedair blynedd. Mi faswn wrth fy modd yn cael fy ail-ethol ar Fai 3 gan fod llawer mwy o waith i'w wneud. Dwi’n awyddus i sicrhau mwy o dai i bobl ifanc yn y pentref a maes parcio arall. Baswn hefyd yn hoffi gweld ardal Lan y Môr yn cael man-welliannau. Mae digon o gynlluniau a syniadau ar y gweill, a’r cyfan er lles pawb yn Y Felinheli.
Ychwanegodd: “Diolch i bawb am eu cefnogaeth dros y bedair blynedd diwethaf a gobeithio bydd y trigolion lleol yn fy nghefnogi eto drwy fwrw pleidlais i mi ym mis Mai!" meddai Siân Gwenllian.
Bydd lansio Ymgyrch Siân Gwenllian a Chwis Gŵyl Ddewi yn digwydd nos Sul, 4 Mawrth, 7.30yh yn Nhafarn y Fic.