Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Chwefror 2012

Cynnig arbennig i ddenu Eisteddfodwyr

Gyda chwe mis i fynd cyn y bydd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn agor ei giatiau, mae’r Brifwyl wedi cyhoeddi manylion cynllun arbennig sy’n cynnig bargen i unrhyw un sy’n prynu tocynnau Maes am ddeuddydd.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd yr Eisteddfod yn rhedeg cynllun tridiau ar y Maes am bris deuddydd, felly wrth brynu tocynnau am ddeuddydd o’ch dewis, gallwch ddod i’r Maes am ddiwrnod ychwanegol – yn rhad ac ddim.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts, “Mae hwn yn gynllun syml ond effeithiol, a’n gobaith yw y bydd nifer fawr o ymwelwyr yn elwa ohono fo eleni ym Mro Morgannwg. Rydym eisoes wedi cyhoeddi manylion ein Tocyn Wythnos, sy’n cynnig arbedion gwirioneddol i unrhyw un sydd am ddod i’r Eisteddfod am yr wythnos gyfan, ac mae’r cynllun newydd yma’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd yn awyddus i ddod atom am ran o’r wythnos.

“Prynwch docynnau ar gyfer deuddydd i’r Maes ac fe gewch fynediad am ddim i’r Maes ar ddiwrnod arall o’ch dewis. Felly, os ydych chi’n prynu dau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 i’r Maes ar gyfer unrhyw ddau ddiwrnod, gallwch archebu hyd at ddau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn rhad ac am ddim, sy’n arbediad o £44.

“Rydym yn ymwybodol iawn ein bod mewn cyfnod o gyni economaidd a bod arian hamdden Eisteddfodwyr, fel pawb arall, yn brin ar hyn o bryd, ond drwy siarad gydag ymwelwyr o bob oed, rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn awyddus i ddod i’r Eisteddfod ac i dreulio nifer o ddyddiau ar y Maes. Gobeithio y bydd y cynnig hwn yn fodd iddyn nhw wneud hyn, a dod atom i fwynhau yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg.

“Bydd modd archebu tocynnau arlein - www.eisteddfod.org.uk - a thrwy’r linell docynnau – 0845 4090 800 – o 1 Mawrth ymlaen. Bydd y cynllun yn dod i ben ar 1 Gorffennaf.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandw ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst. Bydd manylion ein cyngherddau nos yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf gyda thocynnau ar werth o 1 Mawrth ymlaen.

 

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i www.eisteddfod.org.uk neu dilynwch ni ar Twitter, www.twitter.com/eisteddfod neu facebook, www.facebook.com/eisteddfod.

Rhannu |