Mwy o Newyddion
Ysbrydoli er mwyn dilyn gyrfa mewn twristiaeth
Lansiwyd ymgyrch i recriwtio tîm o hyrwyddwyr twristiaeth yng Ngogledd Cymru.
Mae angen hyd at 16 o Lysgenhadol Lletygarwch i ysbrydoli pobl ifanc i weithio yn y diwydiant twristiaeth.
Mae'r fenter yn rhan o strategaeth Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru i osod y rhanbarth ymysg y Pump Uchaf o gyrchfannau ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig.
Credir mai’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan y Bartneriaeth Twristiaeth mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru, yw’r cyntaf o'i fath yn y DU.
Maent yn chwilio am reolwyr neu entrepreneuriaid sydd eisoes yn gweithio yn y maes twristiaeth a allai weithredu fel modelau rôl ar gyfer denu cenhedlaeth newydd i gychwyn gyrfa yn y diwydiant.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gwrs hyfforddi sy'n cael ei gynnal yng Ngwesty'r Imperial, yn Llandudno, ar Chwefror 20 a 21.
Dywedodd Rheolwr y Prosiect Alan Davies: "Os yw Gogledd Cymru am ddod yn un o’r pump cyrchfan uchaf yn y DU, bydd angen i’n gofal cwsmer hefyd fod ymysg y goreuon.
"Prif nod y fenter hon yw codi proffil gyrfa yn y diwydiant lletygarwch, gan bwysleisio ei fod yn cynnig rhagolygon gyrfa da iawn ac annog pobl ifanc i’n gweld fel dewis cyntaf o ran gyrfa.
"Rydym yn awyddus i recriwtio rhwng 14 ac 16 o Lysgenhadon Lletygarwch o fewn y diwydiant ar draws Gogledd Cymru.
"At ei gilydd byddant yn bobl sy'n gweithio fel rheolwyr neu entrepreneuriaid sy'n rhedeg eu busnes eu hunain neu yn y diwydiant lletygarwch.
“Byddant yn ymweld ag ysgolion i ysbrydoli pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed drwy ddweud wrthynt am eu profiadau ac esbonio pam bod twristiaeth yn ddiwydiant cyffrous i weithio ynddo
“Byddai’r Llysgennad Lletygarwch delfrydol yn rhywun sy’n teimlo’n frwd dros y diwydiant ac yn fodel rôl rhagorol.
“Bydd y cwrs deuddydd yn darparu hyfforddiant ar sgiliau cyflwyno ac ymgysylltu sy’n golygu y bydd ein Llysgenhadon Lletygarwch newydd yn gallu cychwyn arni ar unwaith pan fyddant yn dechrau ar eu hymweliadau ysgol ym mis Mawrth.
Mae Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Rhanbarthol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, yn gredwr cryf yn y prosiect.
Dywedodd: "Ein gweledigaeth yw gwneud Gogledd Cymru yn un o'r Pump Uchaf ymysg cyrchfannau y DU ar gyfer ymwelwyr. Nid ydym yn mynd i gyflawni hynny heb ddarparu profiadau hollol wych ar gyfer ein cwsmeriaid, ac mae llawer o hynny wrth gwrs yn cael ei ddarparu gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant.“
"Felly, mae angen i ni recriwtio'r bobl gywir i mewn i'r diwydiant, pobl ifanc fydd yn gweld lletygarwch a thwristiaeth fel gyrfa wych.
"Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Gogledd Cymru. Mae'n dod â £2.1 miliwn i mewn ac mae'n cyflogi o gwmpas 40,000 o bobl. Gyda 30,000 o’r rhain yn y rheng flaen sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, a dyna pha mor bwysig y mae’r diwydiant. Mae’n cyfateb â bron i 10% o'n heconomi.
"Oni bai am yr economi ymwelwyr byddai ein heconomi rhanbarthol yn llawer gwannach, ac yn y cyfnod economaidd anodd hwn rydym wedi gweld bod y sector ymwelwyr wedi dioddef dipyn llai na’r diwydiant cynhyrchu a gwasanaethu.
"Mae'r argraff gyntaf yn cyfrif, ac rydym yn awyddus iawn i roi profiad hollol wych i gwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd.
"Rydym yn gwybod pa mor gyflym y mae’r neges yn mynd o gwmpas yn y byd modern os ydych yn fusnes da neu’n darparu profiad gwael.
"Rydym yn cystadlu yn erbyn cymaint o gyrchfannau eraill o fewn ychydig oriau i ni yma yng Ngogledd Cymru, felly mae;n rhaid i ni fod ar ein gorau gan gynnig cynnyrch arloesol, gyda phobl wych sy'n gwbl ymroddedig i ddarparu profiadau sy'n gwneud i’n cwsmeriaid fod eisiau dod yn ôl yma. "
Dylai unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y cynllun Llysgenhadon Lletygarwch a'r cwrs hyfforddi gysylltu â Llinos Cunnah ym Mhartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, nail ai drwy ei ffonio ar 01745 585440 neu drwy anfon ebost ati yn llinos.cunnah@tpnw.org
Llun: Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Rhanbarthol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru gyda Chris Evans o Gastell Rhuthun