Mwy o Newyddion
Cymorth i swyddfeydd post yn parhau
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgychwyn cronfa gwerth £2m i helpu swyddfeydd post ledled Cymru i arallgyfeirio ac ehangu eu busnes dros y tair blynedd nesaf.
Ail-lansiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post yn Swyddfa’r Post Llanddulas, Abergele. Daw’r cyhoeddiad ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o’r Gronfa.
"Bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn adlewyrchu argymhellion yr adroddiad ar sut i wella’r cynllun. Rydyn ni wedi ailgyflwyno grantiau refeniw i is-bostfeistri allu cael cyngor ar ddatblygu eu cais a’u busnes nad yw’n rhan o swyddfa’r post, symleiddio’r meini prawf a’r ffurflen gais a newid y trefniadau monitro," dywedodd Carl Sargeant.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i roi cymorth i rwydwaith y swyddfeydd post yng Nghymru.
“Mae swyddfeydd post yn darparu nifer o wasanaethau i’r gymuned leol, a byddai eu colli yn gallu arwain at allgáu cymdeithasol neu ariannol.
“Dw i’n croesawu casgliadau’r gwerthusiad annibynnol o’r Gronfa. Maen nhw’n dangos bod y gronfa wedi hyrwyddo cynaliadwyedd a hyfywedd masnachol swyddfeydd post, a hefyd wedi helpu i gryfhau cymunedau a’r economi leol trwy greu swyddi ac annog pobl i wario yn y cymunedau hynny.
“Rydyn ni wedi gweithredu argymhellion yr adroddiad annibynnol ac wedi diwygio’r cynllun yn eu sgil, gan ystyried hefyd yr hyn a ddysgwyd o weithredu’r cynllun yn ei dair blynedd cyntaf.
“Dw i’n siŵr y bydd y cynllun yn parhau i gynnig cymorth gwerthfawr i is-bostfeistri er mwyn iddyn nhw allu cynnal eu busnesau presennol a hefyd ehangu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn eu cymunedau lleol.”