Mwy o Newyddion
Arweinydd Eglwys yn cefnogi newid y ddeddf organau
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ddeddf roi organau yng Nghymru.
Gyda 300 o bobl yn aros am organ ar hyn o bryd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig system ‘eithrio allan’ ar gyfer rhoi organau. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn cynyddu’r nifer o roddwyr, gan achub mwy o fywydau a rhoi gwell ansawdd bywyd i gleifion. Caeodd ymgynghoriad cyhoeddus y llywodraeth ar y Papur Gwyn, Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd, ar Ionawr 31.
Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg W. Bryn Williams, ac Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn cefnogi egwyddor caniatâd tybiedig, gan ddadlau y byddai deddfwriaeth sy’n cael ei gweinyddu yn gywir yn fuddiol.
“Rydym yn teimlo fod arnom rwymedigaeth foesol i ddefnyddio aelodau ein cyrff er lles ein cyd-ddyn,” meddai’r Parchg Williams. “Fodd bynnag, byddai’n rhaid sicrhau amddiffyniadau tynn gan fod llawer o’r pryder ynglŷn â’r newidiadau yn ymwneud â manylion y ddeddfwriaeth. Byddai’n rhaid gwarantu na fydd yn bosibl cam-weinyddu’r system. Rydym hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd y cynllun yn cael ei gefnogi’n llawn gan ymgyrch gyfathrebu drylwyr.”
Mae Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyflwyno ei barn ar y Mesur arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad.
“Ein man cychwyn yw Sofraniaeth Duw dros bopeth y mae pobl a sefydliadau yn ei wneud,” meddai, “ac, yn ein traddodiad ni, pwysleisiwn hawl a dyletswydd unigolion i ddehongli beth y mae hyn yn ei olygu mewn unrhyw ddewis moesol. Gyda hyn mewn cof, rydym yn cynnig y dynesiad canlynol i gwestiwn rhoi organau a’r opsiwn system eithrio allan feddal.
“Mae’r corff dynol yn sanctaidd a thra bo gennym fywyd ac anadl, mae arnom gyfrifoldeb i ofalu am a pharchu ein bywydau a rhai pobl eraill hefyd. Mae’r ddyletswydd hon yn bodoli waeth beth bynnag fo cyflwr, ansawdd bywyd neu statws y person dan sylw ac mae’r ddyletswydd i ofalu ac amddiffyn yn berthnasol hefyd i sefydliadau cymdeithasol a chymunedol y teulu a’r llywodraeth. Nid oes unrhyw sail dros leihau’r ddyletswydd honno oherwydd fod rhywun yn hen, sâl neu fel arall.
“Mae marwolaeth, fodd bynnag, yn dod i bawb a phan ddigwydda hynny mae’n cyrff yn ‘lludw i’r lludw, llwch i’r llwch’. Credwn fod dyfodol yr ysbryd yn aros yn nwylo’n Creawdwr, ond bydd y corff yn pydru neu’n cael ei losgi. Mae technoleg fodern wedi, mewn rhai achosion fel methiant yr arennau, helpu i gyflawni’r ddyletswydd o ofal a pharch tuag at fywyd dynol. Os yw’r nifer o organau sydd ar gael i’w trawsblannu yn annigonol, yn rhaid i’r wladwriaeth, ar ein rhan i gyd fel cymuned, ganfod ffyrdd addas o wneud yn iawn am y diffyg.
“Gyda’r amddiffyniadau priodol mewn lle, bydd unigolion yng Nghymru yn cael gwybod beth mae’r cynllun yn ei gynnig ac yn cael cyfle i eithrio allan. Dan yr amgylchiadau rheiny, mae rhesymau da iawn dros gefnogi’r cyfle a gyflwynir yn y cynllun i wella cyfleon bywyd pobl fyddai fel arall yn dioddef neu’n marw’n gynnar.”
Mae’r farn hon yn groes i safbwynt amryw o arweinyddion Cristnogol Cymreig eraill sydd wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r ddeddf arfaethedig.