Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Ionawr 2012

Leanne Wood yn cael y nifer fwyaf o enwebiadau yn ei chais i fod yn arweinydd

Leanne Wood yw’r ymgeisydd a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau gan etholaethau a changhennau yn ei chais i fod yn arweinydd Plaid Cymru.

Erbyn i’r cyfnod enwebu gau, roedd yr AC dros Ganol De Cymru wedi derbyn 14 o enwebiadau gan etholaethau Wrecsam, Dwyrain Abertawe, Maldwyn, Gŵyr a De Caerdydd, yn ogystal â changhennau megis Porth Tywyn, Castell Nedd a Bro Ingli.

Mae nifer o ffigurau amlwg y blaid hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i Ms Wood, megis Lindsay Whittle AC Dwyrain De Cymru, cyn-brifweithredwr y Blaid Gwenllian Lansdown Davies, Bethan Jenkins AC Gorllewin De Cymru, Allan Pritchard arweinydd cyngor Caerffili a’r cyn AS Adam Price.

Meddai Jonathan Edwards AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, rheolwr ymgyrch Leanne Wood: “Rydym yn falch iawn bod Leanne wedi derbyn cefnogaeth mor gryf gan aelodau’r Blaid ledled y wlad.

“Mae wedi derbyn cefnogaeth ragorol gan nifer o wynebau amlwg y Blaid yn ystod y mis diwethaf, ond mae cael y fath gefnogaeth â hyn gan gymaint o aelodau llawr gwlad y Blaid yn bwysicach.

“Dros y mis diwethaf, mae Leanne wedi trio siarad gyda chymaint â phosib o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru. Mae nifer ac amrywiaeth yr enwebiadau hyn yn adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl sydd nawr yn barod ac yn fodlon i weithio tuag at Gymru newydd.

“Mae pobl o bob rhan o Gymru yn cefnogi’r weledigaeth a amlinellwyd ganddi – gweledigaeth o economi lwyddiannus a mwy cyfartal yn seiliedig ar werthoedd sy’n rhoi pobl yn gyntaf.

Ychwanegodd Leanne Wood: “Rwy’n arbennig o falch o gael cymaint o gefnogaeth. Byddaf yn parhau i ymweld ag aelodau ledled y wlad dros yr wythnosau nesaf er mwyn cyflwyno fy achos dros gyfeiriad y Blaid i’r dyfodol a thros ‘annibyniaeth go iawn’ i Gymru.”

Rhannu |