Mwy o Newyddion
Dafydd Iwan yn cefnogi ymgyrch Leanne Wood
Heddiw mae’r eicon diwylliannol a gwleidyddol, Dafydd Iwan, wedi datgan ei fod yn cefnogi Leanne Wood i fod yn arweinydd Plaid Cymru.
Meddai cyn Lywydd Plaid Cymru ei fod yn cefnogi’r AC dros Ganol De Cymru am ei bod “yn gallu tanio dychymyg cefnogwyr newydd.”
Bydd Dafydd Iwan yn pwysleisio ei gefnogaeth i Leanne drwy gadeirio cyfarfod fel rhan o’i hymgyrch arweinyddol nos Wener yn Neuadd Penygroes ger Caernarfon i aelodau lleol y Blaid.
Meddai: “Angen mawr Cymru a Phlaid Cymru heddiw yw diddordeb a chefnogaeth pobl o bob rhan o’n cenedl.
“Leanne yw’r ymgeisydd sy’n gallu tanio dychymyg cefnogwyr newydd, a hi hefyd sy’n ail-gydio yng ngwleidyddiaeth economaidd wreiddiol y Blaid, sy’n seiliedig ar y gymuned.”
Meddai Ms Wood: “Mae Dafydd a fi wedi bod yn ffrindiau da ac wedi cydweithio dros amser hir ac rwy’n ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth.
“Mae parch mawr iddo ym mhob rhan o’r wlad am ei gyfraniad efnawr i ddiwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru.
“Mae’n ffigwr sydd wedi uno’r Blaid dros y blynyddoedd, ac mae hynny’n rhinwedd y byddaf innau’n ceisio ei hefelychu os byddaf yn llwyddiannus yn ras yr arweinyddiaeth.”