Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ionawr 2012

Cymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Abertawe

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg diweddaraf Prifysgol Abertawe.

Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y bydd y Brifysgol yn sicrhau triniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â’r camau fydd yn eu mabwysiadu er mwyn hybu ac annog defnydd o’r iaith ymhlith myfyrwyr, staff a’r cyhoedd.

Mae’n ofynnol i’r Brifysgol lunio Cynllun Iaith yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cafodd Cynllun Iaith gwreiddiol Prifysgol Abertawe ei gymeradwyo yn 2004.

Un o amcanion strategol Prifysgol Abertawe yw ehangu ei diwylliant dwyieithog a’i darpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae’r Cynllun yn nodi sut y bydd yn gyrru’r uchelgais hwn yn ei flaen gan fanylu ar gynlluniau, polisïau, targedau a dulliau o fonitro cynnydd.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B.Davies: “Mae gan Brifysgol Abertawe orwelion sy’n rhyngwladol ond mae ei threftadaeth Gymreig hefyd yn rhan bwysig o’i hunaniaeth. Mae’r Cynllun Iaith hwn yn adlewyrchu’r ffaith fod y Brifysgol yn sefydliad dwyieithog yng Nghymru.

"Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu Academi Hywel Teifi er mwyn datblygu a hybu astudio ac ysgolheictod drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn yn dangos ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddatblygu a hyrwyddo’r iaith.

"Mae’r Cynllun yn ategu at y neges hon ac yn egluro i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd sut y defnyddir y Gymraeg o fewn y Brifysgol."

 

Mae’r Cynllun Iaith wedi ei gyhoeddi ar wefan y Brifysgol

www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/popeth-yn-gymraeg/polisiiaithgymraeg/

 

Bydd nifer o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun dros y misoedd nesaf.

Rhannu |