Mwy o Newyddion
Sara yw Myfyriwr Nyrsio Cymraeg y Flwyddyn Abertawe
Roedd dathliad dwbl i Sara Davies o Borthyrhyd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener, Ionawr 27, pan graddiodd ag Anrhydedd Dosbarth Gyntaf o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.
Enillodd Sara, sy’n 21, Wobr y Coleg hefyd ar gyfer Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn. Mae’r wobr flynyddol, gwerth £200, yn cael ei chyflwyno i’r myfyriwr sy’n cyflwyno’r gwaith cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf drwy gydol y radd Nyrsio tair blynedd.
Wrth sôn am ei gwobr, meddai Sara: “Roedd ennill ‘Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn’ tu hwnt i’m disgwyliadau ac rydw i’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’i dderbyn. Rhoddodd radd Ddosbarth Gyntaf gymhelliad positif i mi ond mae’r wobr hon wedi cynyddu fy mhenderfyniad i lwyddo yn y proffesiwn yr wyf wedi’i ddewis.”
Manteisiodd Sara ar y cyfle i astudio modiwl cyfrwng Cymraeg fel rhan o’r radd Nyrsio.
Meddai: “Roedd gallu cyfathrebu a thrafod yn fy mamiaith yn wych, yn ogystal â’r cyfle a gefais i wneud ffrindiau agos yn y grŵp. Trwy fod yn rhan o grŵp bach, cefais gyfle i fynegi fy marn, dysgu geirfa newydd a oedd yn berthnasol i’r cwrs a derbyn arweinyddiaeth anhygoel gan diwtor a oedd wastad wrth law i ddarparu cefnogaeth. Trwy ddilyn y modiwl Cymraeg, tyfodd fy hyder ac roedd fy wythnosau cyntaf mewn amgylchedd newydd gymaint yn haws.
“Galluogodd y modiwl i mi ddysgu a defnyddio geirfa Gymraeg a oedd yn berthnasol i’m lleoliadau clinigol. Roedd yn syndod i mi gymaint o gleifion, o bob oedran, y mae’n well ganddynt gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ychwanegodd Sara: “Rydw i’n teimlo’n falch fy mod i’n gallu gofalu a chynnig help drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n deimlad braf hefyd gallu cyfathrebu â theuluoedd a ffrindiau cleifion yn y naill iaith, yn aml mewn amgylchiadau anodd a thrist.”
Yn ystod ei hastudiaethau, aeth Sara ar antur anhygoel i India drwy gymryd rhan mewn rhaglen Astudio Dramor y Brifysgol.
Wrth sôn am ei phrofiad, meddai: “Heb os, roedd y cyfle i deithio i India drwy ‘Gynllun Astudio Dramor Prifysgol Abertawe’ yn uchafbwynt o’m cyfnod fel myfyriwr. Treuliais chwe wythnos yn Bangalore gyda thîm o fyfyrwyr o gefndiroedd academaidd gwahanol, yn dysgu am gyfleusterau iechyd ac addysg y wlad. Rhoddodd y cyfle hwn golwg amhrisiadwy i mi ar ddiwylliant a ffordd o fyw sy’n hollol wahanol. Roedd y cyfle hwn yn sicr yn brofiad a newidiodd fy mywyd.”
Mae Sara bellach yn gweithio fel nyrs gymwysedig yn yr Uned Gofal Dwys Cyffredinol yn Ysbyty Morriston.
Ychwanegodd Sara: “Drwy gydol y tair blynedd, gwnes i fy ngorau glas ym mhob agwedd o’m cwrs. Gwobrwywyd fy ymdrech a gwireddwyd fy ngobeithion gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Roedd fy llwyddiant yn llethol ac mae wedi fy annog i berfformio i’r safon uchaf drwy gydol fy ngyrfa fel nyrs.”