Mwy o Newyddion
Aur i dwristiaeth Gwynedd
Mae cyfanswm o 24 ddarparwyr llety yng Ngwynedd yn dathlu’r newyddion eu bod yn derbyn gwobr aur yng ngwobrau twristiaeth diweddar Croeso Cymru 2012. Nod y wobr aur yw gwobrwyo ansawdd eithriadol a lletygarwch yn y sector gwasanaeth yng Nghymru.
Ymhlith y rhai llwyddiannus mae chwe gwesty, saith o letai ar gyfer ymwelwyr, pum gwely a brecwast, tri thŷ bwyta gydag ystafelloedd, un tafarn, un tŷ llety ac un fferm - i gyd o wahanol ardaloedd ar draws y sir. Y gobaith ydi y bydd y gwobrau hyn yn rhoi hwb i dwristiaeth yng Ngwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae’r ffaith bod cymaint o ddarparwyr llety yng Ngwynedd wedi cael eu rhoi ar restr gwobrau aur Croeso Cymru gan gyrraedd y safon uchaf posibl, yn newyddion calonogol dros ben. Mae’r gwobrau yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled sy’n cael ei gyflawni gan weithwyr y sector dwristiaeth yng Ngwynedd.
“Fel Cyngor rydym yn awyddus i ddenu cynifer o dwristiaid ag sy’n bosibl i’r ardal. Rydym yn gobeithio y bydd y newyddion hyn yn rhoi hwb ychwanegol i’r economi leol ac i fusnesau ledled y sir yn gyffredinol.”
Yn arbennig, mae pump o westai ardal Meirionnydd wedi derbyn y wobr aur. Mae’r pump yn aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth Bala a Penllyn. Mae’r gwestai hyn yn cynnig llety moethus, wedi eu lleoli yng nghanol golygfeydd arbennig Penllyn. Dyma’r enillwyr: Abercelyn, Bryniau Golau, Bryn Tegid a Pale Hall (gwestai) a Thyddyn y Llyn (tŷ bwyta gydag ystafelloedd).
Dywedodd Mel Williams, Cadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Bala a Penllyn:
“Mae’n llwyddiant anhygoel bod cymaint o westai'r ardal wedi derbyn y wobr aur, mae hyn yn adlewyrchu’r safon uchel sy’n cael ei gynnig gan ein haelodau. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli dros 40 o fusnesau yn yr ardal ac yn gweithio i ddenu cymaint o ymwelwyr a phosibl i ddarganfod beth sydd gan ardal Bala a Penllyn i’w gynnig.”
I weld rhestr lawn o wobrau aur Croeso Cymru, ewch i: www.wales.gov.uk/topics/tourism/grading neu am wybodaeth gyffredinol ynglŷn ag ymweld â’r ardal a llefydd i aros, ewch i wefan Mynyddoedd a Môr Eryri: www.visitsnowdonia.info
Mae mwy o fanylion am fusnesion yn ardal y Bala ar gael ar y safle: www.VisitBala.org