Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2012

Galw ar i Gymru gael rheoli ei hadnoddau naturiol

Mae Leanne Wood, un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru, yn bwriadu cychwyn ymgyrch i alw ar i Gymru gael rheoli ei hadnoddau naturiol sylweddol.

Mae’r Aelod Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru am arwain ymgyrch fydd yn galw ar Ystâd y Goron, sy’n berchen ar wely’r môr i fyny at 12 milltir morol oddi ar arfordir Cymru ynghyd â 3000 acer o dir, i drosglwyddo cyfrifoldebau a hawliau i bobl Cymru.

Dangosodd Adroddiad Blynyddol Ystâd y Goron fod ei adnoddau yng Nghymru wedi creu elw yn nhermau gros o £2.3 miliwn yn 2009-2010 gyda derbyniadau cyfalaf gwerth £1.8 miliwn. Telir yr elw a enillir gan yr Ystâd i’r Trysorlys, “er lles y genedl” chwedl hwythau.

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan swyddfa Leanne Wood wedi datgelu nad oes unrhyw aelodau o staff wedi eu lleoli yng Nghymru gan Ystâd y Goron.

"Ein pennaf asedau yng Nghymru yw’n hadnoddau naturiol”, dywedodd Leanne Wood.

"Mae gennym botensial enfawr i greu ein hynni cynaliadwy ein hunain. Mae gennym y gallu i fod yn hunan-gynaliadwy o safbwynt ynni – ac fe fydd hynny yn hollbwysig yn y dyfodol pan fydd tanwydd ffosil yn dod yn ddrutach ac yn brinnach.

"Bydd y costau cynyddol ynghyd ag ystyriaethau amgylcheddol yn ein gorfodi i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol.

"Credaf yn gryf y dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i reoli eu hadnoddau naturiol. Bydd llawer o bobl yn y wlad hon yn cytuno y dylai’r elw a grëir diolch i ynni’r gwynt, yr haul a’r dŵr – a allasai fod yn sylweddol iawn mewn blynyddoedd i ddod – aros yma er mwyn bod o fudd i bobl Cymru.

"Pan oedd y diwydiant glo ar ei anterth, fe grëwyd enillion enfawr diolch i adnoddau naturiol Cymru ond fe gollwyd bron bob ceiniog i leinio pocedi pobl tu fas i Gymru.

"Allwn ni ddim caniatáu i hynny ddigwydd eto."

Y person a fydd yn elwa o gynnydd mewn enillion ar gyfer Ystâd y Goron fydd y Frenhines, a fydd yn derbyn 15% o’r elw a godir fel rhan o gytundeb gyda’r Trysorlys yn 2010 i ddiddymu’r Rhestr Sifil. Roedd adroddiad yn y Daily Mail, a gyfeiriodd at y cytundeb fel “camp a hanner”, yn dweud y gallai hyn arwain at £37.5 miliwn yn ychwanegol i’r Teulu Brenhinol.

Dywedodd Ms Wood: "Fel gweriniaethwraig o argyhoeddiad, credaf y byddai’n gwbl anghywir i’r teulu brenhinol gael ennill cyfran hyd yn oed yn uwch o’r elw a grëir gan Ystâd y Goron.

"Rwyf wedi bod yn weriniaethwraig ers amser hir a bydd hynny’n parhau beth bynnag fo penllanw y ras am arweinyddiaeth y Blaid am fy mod yn credu’n angerddol fod yr egwyddor etifeddol yn anfoesol ac yn groes i’r graen.

"Pe bawn yn cael fy nethol yn arweinydd, mae’n debygol y byddai’n rhaid i mi, fel arweinydd y Blaid, gyfarfod ymwelwyr i Gymru o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys aelodau o deuluoedd brenhinol.

"Fe fyddwn yn barod i gyflawni dyletswyddau o’r fath os mai dyna oedd ewyllys aelodau’r Blaid er mwyn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau. Fel arweinydd Plaid Cymru, fy mhrif flaenoriaeth fyddai i ganolbwyntio ar economi Cymru ac i gynnig gobaith i’r sawl sydd yn cael eu gadael ar ôl oherwydd diffyg swyddi a chyfleon”. ?

Gwnaeth Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr a rheolwr ymgyrch cais Leanne am yr arweinyddiaeth, dweud: "Bydd rheolaeth dros adnoddau naturiol Cymru yn fater diffiniol gwleidyddol o bwys yn y dyfodol.

“Mae Cymru yn cynhyrchu ddwywaith gymaint o drydan ag yw hi’n ei defnyddio eto rydym yn diodde’r prisiau ynni uchaf.

“Er bod y pleidiau unoliaethol yn hapus i’n hadnoddau naturiol gael eu hecsbloetio gan eraill, cred Plaid Cymru y dylem fod yn eu defnyddio’n strategol i greu economi ddeinamig ac i ddelio â'r materion cyfiawnder cymdeithasol rydym yn eu hwynebu.

“Tra bod y pleidiau unoliaethol yn credu mewn dyfodol lle rydym yn ddibynnol ar arian sy’n cael ei drosglwyddo o Lundain, rydym ni am weld dyfodol lle rydym yn defnyddio ein hadnoddau i greu cyfoeth er mwyn gwella bywydau ein pobl.”

Rhannu |