Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2012

Iechyd a diogelwch ar y fferm

LANSIWYD ‘Siarter Iechyd a Diogelwch ar y Fferm yng Nghymru’ yn ystod digwyddiad Brecwast Tŷ Fferm CFfI Cymr ddydd Mercher.

Bwriad y Siarter yw gwella diogelwch ar y fferm a chafodd ei lansio  gan y Dirprwy Weinidog dros Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AS.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae trafodaethau wedi cymryd lle er mwyn ceisio gwella diogelwch ar y fferm ac i leihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau difrifol o fewn y diwydiant amaethyddol. Mae ystyriaeth hefyd wedi cael ei roi i’r heriau iechyd a diogelwch unigryw sy’n gwynebu’r rhai o fewn y diwydiant amaeth o ddydd i ddydd.

Roedd cynrychiolwyr o’r mudiadau canlynol yn bresennol yn ystod y digwyddiad ac wedi arwyddo’r siarter;  CFfI Cymru, NFU Cymru, UAC, CLA Cymru, Hybu Cig Cymru, Llywodraeth Cymru, Lantra, RABI Cymru, NFU Mutual, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Rhwydwaith Argyfwng Ffarm a CAFC.

Dywed Marc Jones, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru: “Mae’r holl fudiadau a oedd yn bresennol wedi ymrwymo i gydweithio ar gyfer diwydiant amaethyddol mwy diogel yng Nghymru. Drwy ddod ynghyd â chydweithio, bydd modd gwneud mwy er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn cael y wybodaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen ganddynt er mwyn gwneud addewid i’w hunain a’u teuluoedd i ddod adre’n ddiogel.”

Dywed Alun Davies, Dirprwy Weinidog dros Amaeth: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymuno gyda’r mudiadau eraill i lansio’r Siarter er mwyn gweld y diwydiant cyfan yn cydweithio ar fater mor bwysig. Mae’r Siarter newydd yma yn rhan bwysig o’r gwaith sydd angen ei wneud, ac rwy’n ei gymeradwyo a’r mudiadau sydd wedi ei arwyddo.”

Cafodd enillion o’r digwyddiad eu roi i Elusen y Flwyddyn - Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywed Cadeirydd CFfI Cymru Dylan Jones;  “I ddechrau cymerodd dipyn o amser i feddwl am elusen i’w gefnogi ond unwaith dechreuais feddwl am Ambiwlans Awyr Cymru nid oedd gennyf unrhyw amheuaeth mewn cefnogi’r elusen gwerth chweil yma.

"Nid oes neb yn gwybod pryd fydd angen iddynt alw am gefnogaeth yr Ambiwlans Awyr, ac yn y 10 mlynedd o fodolaeth mae wedi rhoi cymorth gwerthfawr i nifer o unigolion a theuluoedd nifer ohonynt o gefndiroedd amaethyddol.

"Rwy’n gobeithio wrth lansio'r siarter hyn bydd rhagor o ymwybyddiaeth tuag at iechyd a diogelwch ar ffermydd. Ar ran CFfI Cymru, hoffwn ddiolch i deulu Jones, Trefnant Hall, Y Trallwng am eu lletygarwch yn ystod y digwyddiad.”

Rhannu |